16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae’r Brentisiaeth Ymarferwyr Dysgu Digidol yn ymdrin â llawer o agweddau allweddol ar ddysgu gan ddefnyddio technoleg ddigidol. Gyda ffocws ar ddatblygu, cynllunio, hwyluso a gwerthuso gwybodaeth a sgiliau mewn amgylchedd dysgu.

Mae’r Brentisiaeth hon yn archwilio amrywiaeth o wahanol becynnau meddalwedd rhaglenni a thechnoleg newydd er mwyn ymateb i natur newidiol ac amrywiol y diwydiant er mwyn helpu i ddysgu, datblygu a chysylltu â dysgwyr.

Mae’r Brentisiaeth hon yn addas ar gyfer pobl yn y sector addysg sydd â diddordeb mewn dysgu digidol ac sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau yn y maes hwn.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

  • Deall a defnyddio hyrwyddiad cynhwysol
  • Cynnal safonau ac ansawdd
  • Asesu a datblygu gallu digidol
  • Yr amgylchedd dysgu a datblygu cyfunol ac ar-lein
  • Datblygu a pharatoi adnoddau ar gyfer dysgu digidol
  • Rheoli datblygiad personol a phroffesiynol
  • Datblygiad mewn dysgu a datblygiad digidol
  • Addysgu crefftus a dysgu gweithredol

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, dyrennir asesydd i ddysgwyr hefyd. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn ei weithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) bob mis, i gefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau, drwy gydol y cymhwyster.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

 

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Darganfyddwch mwy