16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Os ydych yn gyflogwr yng Nghymru, gallai chi a’ch gweithwyr elwa ar ystod o wasanaethau a chyfleoedd cyllido sydd wedi’u cynllunio i ddod â thalent i’ch busnes a meithrin twf ynddo.

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Rydym yn darparu pecynnau hyfforddi deinamig sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion cyflogwyr a gweithlu Cymru.

Dros y 35 mlynedd diwethaf, rydym wedi datblygu ystod o ddulliau arloesol o ddarparu hyfforddiant, gan ddefnyddio’r technolegau diweddaraf ac adnoddau ar-lein i wella’r profiad dysgu a diwallu anghenion y cyflogwr a’r gweithiwr.

Pam ein dewis ni?

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda dros 600 o gyflogwyr ledled Cymru, gan gynnwys Molson Coors, The British Heart Foundation, The Celtic Manor Resort, Byrddau Iechyd y GIG, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Prifysgol Caerdydd, Cynghorau Lleol, Celsa Steel a The Vale Resort, yn ogystal â busnesau bach llwyddiannus fel Terry’s Patisserie, Earth a Daisy Day Nursery.

Mae gennym dîm medrus iawn o aseswyr a hyfforddwyr wedi’u lleoli mewn safleoedd ledled Cymru, gyda phrofiad helaeth yn y diwydiant. Mae hyn yn rhoi tawelwch meddwl i chi fod hyfforddiant a dysgu’n cael eu darparu gan arbenigwr sy’n deall anghenion, pwysau ac, weithiau, ofynion unigryw eich diwydiant.

Ein rhaglenni seiliedig ar waith:

Gall pobl ifanc fod yn gaffaeliad gwych, a thrwy gymryd rhan yn Twf Swyddi Cymru+ byddwch yn sicrhau bod eich busnes yn gallu dewis o blith talent ifanc yn eich cymuned.

Mae’n rhaglen arloesol a hyblyg. Felly gallwch benderfynu ar y ffordd orau y gall y rhaglen helpu eich busnes, ac ar yr un pryd greu cyfleoedd sy’n newid bywydau i’r person ifanc rydych yn ei gefnogi.

Dysgwch fwy!

Mae ein Prentisiaethau yn rhaglenni hyfforddiant seiliedig ar waith sydd wedi’u cynllunio o amgylch anghenion eich busnes, ac sy’n arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol i’ch gweithwyr.

Gallwch ddefnyddio ein rhaglen Brentisiaeth i uwchsgilio aelod presennol o staff neu i recriwtio talent newydd.

Mae cyflogi Prentis yr un fath â chyflogi aelod newydd o staff – yr unig wahaniaeth yw y bydd yr aelod newydd hwnnw o staff yn dilyn Prentisiaeth ac yn hyfforddi yn y gwaith.

Mae sut rydych yn hysbysebu, cyfweld a chynnig y swydd i’r Prentis yn gwbl i fyny i chi, ond rydym yn cynnig gwasanaeth recriwtio Prentisiaid wedi’i ariannu’n llawn y gall unrhyw un o’n cleientiaid a’n busnesau yng Nghymru fanteisio arno.