16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Am y Cyfle Hwn

Mae Playworks Childcare Ltd yn darparu gofal y tu allan i’r ysgol i blant oedran ysgol gynradd. Maent yn ddarparwr gofal plant aml-safle sy’n gweithio ar draws saith ardal awdurdod lleol.

Mae pob lleoliad wedi’i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru neu wrthi’n cael ei gofrestru.

Caerdydd

14-40 awr

Lwfans hyfforddi JGW+ o hyd at £55 yr wythnos, ynghyd â chostau teithio.

Dyletswyddau

  • Gweithio’n agos gyda’r Uwch Reolwr Cyfrifon Cwsmeriaid a’r tîm Cyfrifon Cwsmeriaid i sicrhau bod cyfrifon ac archebion yn gyfredol.
  • Cynorthwyo i ateb a throsglwyddo galwadau ffôn i’r adran gywir.
  • Ffeilio a llungopïo, ac ymateb i e-byst.
  • Ateb ymholiadau rhieni a gofalwyr gyda chymorth gan y tîm rheoli.
  • Cymryd taliadau gan rieni a gofalwyr, anfon manylion plant a chofrestrau i leoliadau drwy’r post neu e-bost, a dyrannu taliadau i gyfrifon cwsmeriaid.

Cysylltir â chi dros y ffôn ac e-bost drwy gydol y broses recriwtio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi manylion cyswllt cyfredol i ni ac yn gwirio eich negeseuon yn rheolaidd.