Mae ACT yn credu’n gryf mewn tegwch, cydraddoldeb a pharch at bob bywyd dynol. Rydym bob amser wedi cymryd mater cynhwysiant ac amrywiaeth o ddifrif, ac mae cydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn.
Yr hyn sydd gennym ar waith
- Mae ein polisïau recriwtio cychwynnol a sefydlu staff, ynghyd â hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth parhaus i staff, yn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i bawb, ar draws ACT a’n partneriaid.
- Rydym yn mynd i’r afael â hiliaeth a gwahaniaethu o fewn ein cwricwlwm Hyfforddeiaeth ACT. Mae hyn yn codi ymwybyddiaeth ac yn rhoi llais i’n dysgwyr rannu eu profiadau. Mae hyn oll yn arwain at sgyrsiau a dysgu hynod bwysig ac effeithiol.
- Rydym wedi ymrwymo i’r Cynllun Arweinyddiaeth ac Amrywiaeth, sy’n helpu sefydliadau i gyflawni diwylliant cynhwysol lle mae pawb yn cael triniaeth deg a chyfartal, waeth beth fo’u cefndir.
Fodd bynnag, rhaid inni wneud mwy ac rydym yn cydnabod yn glir na allwn fod yn hunanfodlon. Gallwn bob amser wneud yn well, ac fel darparwr hyfforddiant addysgol, byddwn yn gwneud hynny.
Beth rydym yn ei wneud nawr?
Mae perthynas sefydledig yng Nghymru rhwng tlodi ac ethnigrwydd, fel y gwelwn yn rhy aml wrth addysgu a gweithio gyda rhai o’r dysgwyr mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn:
- Adolygu ein cwricwlwm i sicrhau ei fod yn cynnwys y materion sydd wedi’u codi drwy ddigwyddiadau diweddar, a’i fod yn mynd i’r afael yn ddigonol â gwahaniaethu yn ei holl ffurfiau.
- Estyn allan a cheisio arweiniad gan sefydliadau eraill, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd i’n helpu gyda hyn.
- Cael cyngor ar sut i wella materion amrywiaeth yn y gweithle.
- Defnyddio’r wybodaeth a’r data a gasglwyd o’n harolygon Best Companies, a’n harchwiliadau amrywiaeth mewnol ein hunain, i wella’r gwaith rydym eisoes yn ei wneud i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu.
- Edrych ar wella mynediad at raglenni mentora sy’n darparu cyfleoedd i bobl Ddu, Gynhenid a Phobl o Liw (BIPOC).
- Cyflwyno Hyrwyddwyr Amrywiaeth o fewn ein sefydliadau i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae ACT wedi ymrwymo’n llawn i’r gwaith hirdymor o herio hiliaeth, ac yn wir pob math o wahaniaethu, er mwyn sicrhau cydraddoldeb i bawb. Rydym, ac fe fyddwn bob amser, yn hyn gyda’n gilydd!