Mae sgiliau hanfodol mewn Rhifedd, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol yn darparu hyfforddiant sylfaenol cadarn i bobl o bob oed a gallu. Mae’r cyrsiau hyn yn canolbwyntio ar y cymwyseddau craidd sydd eu hangen ar gyfer gwaith, dysgu a bywyd. Yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw staff a hoffai ddatblygu a chael mynediad at ddysgu pellach, mae’r sgiliau hanfodol hyn yn galluogi pobl i esblygu gyda’u swyddi a llwyddo yn y gweithle.
Cyrsiau Allweddol
Lleoliad:Darpariaeth hybrid –Gweithdai Ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb
Lefel:1,2 a 3
Cost:£725 +TAW
Trosolwg:Mae’r cymhwyster hwn yn canolbwyntio ar gymhwyso sgiliau cyfathrebu yn ymarferol, yn enwedig gallu dysgwr i drosglwyddo ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth rhwng cyd-destunau a dibenion.
Lleoliad:Darpariaeth hybrid –Gweithdai Ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb
Lefel:1,2 a 3
Cost:£725 +TAW
Trosolwg:Mae’r cymhwyster hwn yn canolbwyntio ar gymhwyso sgiliau rhif yn ymarferol, yn enwedig gallu dysgwr i drosglwyddo ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth rhwng cyd-destunau a dibenion.
Lleoliad:Darpariaeth hybrid –Gweithdai Ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb
Lefel:1,2 a 3
Cost:£725 +TAW
Trosolwg:Mae technoleg wedi chwyldroi’r ffordd rydym yn byw ac yn gweithio ac mae sgiliau digidol bellach yn ofyniad hanfodol ym mron pob sector neu ddiwydiant. Mae’r cymhwyster hwn yn berffaith addas ar gyfer y dysgwyr hynny sydd eisiau gwella eu sgiliau digidol ar-lein. Drwy ennill cymhwyster sgiliau Llythrennedd Digidol bydd dysgwyr yn gallu cynyddu eu hyder ac ennill sgiliau gwerthfawr ar gyfer dysgu pellach, gwaith a bywyd yn gyffredinol.
Ar gael o Lefel 1 i Lefel 3, bwriad EDLS yw helpu dysgwyr i ddangos sgiliau mewn:
- Cyfrifoldeb digidol
- Cynhyrchiant digidol
- Llythrennedd gwybodaeth ddigidol
- Cydweithio digidol
- Creadigrwydd digidol
- Dysgu digidol
Gwybodaeth Archebu:
- TAW: Mae pob cwrs yn ddarostyngedig i TAW.
- Dewisiadau Archebu: Gallwn hwyluso archebion unigol ac anfonebu ar gyfer sefydliadau sy’n awyddus i osod archeb grŵp.
Fel rhan o’n cynnig masnachol, gallwn ddarparu atebion hyfforddi pwrpasol ar gyfer ein cyrsiau sydd wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’ch anghenion, gan gynnwys carfannau dynodedig a modiwlau wedi’u teilwra.
Rydym hefyd yn darparu cyrsiau Dysgu a Datblygu i’r rhai sy’n gweithio yn y sector hyfforddi a dysgu seiliedig ar waith.
Lawrlwythwch ein llyfryn hyfforddi Masnachol llawn i ddysgu mwy am ein cyrsiau neu cysylltwch â ni i wneud archeb heddiw!
Cysylltwch â ni Heddiw