16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Kirstie Thomas yw Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Lewis Pengam, yr ysgol fechgyn un rhyw olaf yng Nghymru.

Mae hi wedi gweithio yn Ysgol Lewis am 19 mlynedd, gan ddod yn Bennaeth Cynorthwyol yn 2018. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae ei meysydd diddordeb wedi cynnwys addysgu a dysgu, hyfforddi a mentora, anghenion dysgu ychwanegol, cynhwysiant, ymgysylltiad disgyblion, lles, ymyrraeth a chymorth i ddisgyblion, a thegwch i ddisgyblion.

Ers dod yn Bennaeth Cynorthwyol, mae hi wedi canolbwyntio ar greu a datblygu darpariaeth amgen i ddisgyblion sy’n gweld yr ystafell ddosbarth brif ffrwd yn rhy heriol.

Sefydlwyd y LPC (Canolfan Llwybr Dysgu) yn 2016, i ddechrau fel cynllun peilot, ac mae bellach yn rhan annatod o strategaeth ADY Caerffili, gan gefnogi plant o bob rhan o’r awdurdod lleol. Mae’r LPC yn gyfleuster ailintegreiddio a’i brif nod yw cefnogi ein dysgwyr i ddychwelyd i addysg brif ffrwd; fodd bynnag, efallai na fydd hyn bob amser yn briodol, ac mewn achosion o’r fath, rydym yn defnyddio amrywiaeth o ymyriadau i helpu i ddatblygu a chryfhau gallu ein disgyblion i ymdopi’n llwyddiannus mewn amgylchedd bach, wrth baratoi ar gyfer cam nesaf eu bywydau.