16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Edrychodd y dysgwr brwd Thomas Smith ar ACT Training pan oedd am gael sgiliau ychwanegol i roi hwb i’w yrfa cadw cyfrifon. Felly dechreuodd ar daith gan gychwyn gydag astudio meddalwedd, ond yn y diwedd gorffennodd yn cyfrif costau ar gyfer cŵn, mewn busnes sy’n cynnig lle i gŵn aros.

Cwblhaodd y gŵr 35 mlwydd oed Dystysgrif Sylfaen AAT mewn Cyfrifeg, gyda Pettigrew Bakeries. Fe wnaeth cyn-gydweithiwr, a hyfforddodd gyda ACT yn flaenorol, ddweud wrtho pa mor werthfawr y bu iddi hi. I Thomas, roedd y cyfle i barhau i weithio tra’n ennill cymhwyster uchel yn rhy dda i’w wrthod.

Dywedodd: “Ynystod fy nghyfnod mewn rôl gyllid flaenorol, nododd cydweithiwr mewn cyfrifyddu ei bod wedi ymgymryd â phrentisiaeth cyfrifyddu gyda ACT a’i bod yn fuddiol iawn i’w rôl.

Roedd yn caniatáu i mi weithio’n llawn amser a dysgu yn y swydd, tra’n datblygu gwybodaeth drwy ddosbarthiadau nos ddwywaith yr wythnos.

Rhoddodd y cwrs wybodaeth iddo am drafodion gyda systemau cadw llyfrau,costio, defnyddio meddalwedd cyfrifyddu SAGE ac arferion moesegol o fewn cyllid.

Er iddo gael ei ddiswyddo o Pettigrew Bakeries, oherwydd yr amgylchedd economaidd, mae bellach yn defnyddio ei sgiliau newydd mewn busnes lletya cŵn/gofal dydd, Oh Doggo. Mae’n gwybod y bydd yr uwchsgilio a gafodd wrth gwblhau’r cwrs hynod ymarferol gyda’r becws yn aros gydag ef, gan ffurfio sylfaen gadarn ar gyfer ei yrfa ariannol sy’n datblygu.

Ychwanegodd: “Prif elfen fy swydd oedd delio â chwsmeriaid cyfanwerthol fel rhan o’m gwaith o ddydd i ddydd – dosbarthu cynnyrch iddynt ac anfon anfonebau dyddiol ymlaen, cyn gofyn am daliadau ar ddiwedd mis.

“Fe wnaeth bod yn ymarferol gyda’r ochr gyflenwi a’r ochr cyfrifon fy ngalluogi i fireinio fy ngwybodaeth a chael dealltwriaeth lawn o gyfrifon cwsmeriaid a chywiro unrhyw wallau fel codi gormod neu golli anfonebau.”

Dywedodd Thomas, sy’n hanu o’r Barri, fod tiwtoriaid yn “gefnogol iawn” yn ystod sesiynau un-i-un a’u bod bob amser wrth law i ateb unrhyw ymholiadau oedd ganddo am ddeunyddiau’r cwrs.

Er i’w rôl yn Pettigrew Bakeries ddod i ben, helpodd y sgiliau trosglwyddadwy a enillodd o’r cwrs iddo ddod o hyd i swydd arall yn gyflym i ffynnu ynddi, yn Oh Doggo, y mae’n ei redeg gyda’i bartner Emma.

Dywedodd fod y cymhwyster yn ei adael i “gynnala deall ochr ariannol y busnes yn effeithlon”.

“Oherwydd COVID-19, cefais fy niswyddo o’m rôl yn y becws. Er fy mod yn siomedig, cefais swydd arall yn fuan a roddodd amser i mi ganolbwyntio ar helpu fy mhartner Emma gyda’n busnes lletya cŵn/gofal dydd – Oh Doggo. Ar wahân i ofalu am gŵn gwych a’u cerdded, rwy’n defnyddio fy sgiliau newydd wrth ddelio â chyfrifon ac ochr anfonebu’r busnes!

Byddai’r carwr cŵn wrth ei fodd yn argymell yr un llwybr hyfforddi i eraill.

Ychwanegodd: “Mae’n ddelfrydol i’r rhai sy’n awyddus i gael dealltwriaeth o gyfrifyddu a chadw cyfrifon. Mae hefyd yn sylfaen dda o sgiliau i feddu arnynt ar gyfer bywyd bob dydd, gan eich galluogi i ddeall cyllid a chynllunio ar gyfer y dyfodol!”