Ynglŷn â’r cwrs hwn
Mae Prentisiaeth Lefel 2 mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Yswiriant Bywyd, Pensiynau a Buddsoddiadau) wedi’i datblygu ar y cyd â chyflogwyr yng Nghymru. Ei nod yw darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen i ddechrau gyrfa lwyddiannus ym maes darparu buddsoddiadau yswiriant bywyd a phensiynau.
I bwy mae’r brentisiaeth?
- Yn ddelfrydol ar gyfer prentisiaid sy’n dechrau eu gyrfa yn y diwydiant yswiriant bywyd, pensiynau a buddsoddiadau.
- Yn berffaith ar gyfer gweithwyr presennol sydd am wella eu cymhwysedd wrth ddarparu gwasanaethau ariannol.
- Cymhwyster achrededig i weithwyr proffesiynol ym meysydd yswiriant bywyd, pensiynau a buddsoddiadau i ddilysu eu cymhwysedd a’u gwybodaeth am y sector hwn.
Cyflymu Twf Gyrfa: Mae prentisiaid yn ennill sgiliau a gwybodaeth werthfawr sy’n benodol i’r diwydiant bywyd, pensiynau a buddsoddiadau, gan adeiladu eu harbenigedd mewn gwasanaeth cwsmeriaid, cynhyrchion a gwasanaethau ariannol a rheoliadau’r diwydiant. Trwy brofiad ymarferol a dysgu strwythuredig, bydd prentisiaid yn datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol, gan gaffael sgiliau trosglwyddadwy a fydd o fudd iddynt drwy gydol eu gyrfa. Mae cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus yn agor drysau i amrywiol gyfleoedd gyrfa o fewn y sector bywyd, pensiynau a buddsoddi fel Gweinyddwr Pensiynau ac Arweinydd Tîm.
Dysgu Ymarferol a Byd Go Iawn: Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol, byd go iawn. Bydd prentisiaid yn ymarfer sgiliau yn y gweithle gan gydweithio â chydweithwyr profiadol a’u cefnogi gan weithwyr proffesiynol ALS a fydd yn tywys y prentis trwy bob cam o’r broses.
Cwricwlwm wedi’i Deilwra: Mae ein cwricwlwm cynhwysfawr wedi’i gynllunio i ddiwallu gofynion y diwydiant yswiriant sy’n esblygu’n barhaus. Mae ganddo ddull hyblyg ac mae’n caniatáu i brentisiaid a’u cyflogwyr ddewis unedau dewisol ac ychwanegol sy’n bodloni gofynion eu rôl swydd benodol. Bydd prentisiaid yn ymdrin â phynciau hanfodol fel cydymffurfio â rheoliadau, cynllunio a threfnu gwaith a rheoli perthynas â chwsmeriaid.
Cynghorwyr Profiadol a Gwybodus: Drwy gydol y prentisiaeth, byddwn yn darparu mynediad at rwydwaith o gynghorwyr profiadol a chymwys a fydd yn cynnig arweiniad, cefnogaeth ac adborth.
Mae’r brentisiaeth hon yn cynnwys cyfuniad o unedau gorfodol ac unedau dewisol. Byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa fodiwlau dewisol sydd fwyaf addas i chi ac i’ch rôl swydd.
Mae’r unedau’n cynnwys:
- Cydymffurfio â rheoliadau o fewn yr amgylchedd gwasanaethau ariannol.
- Gwella a chynnal cymhwysedd yn y gweithle mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.
- Cynllunio a threfnu gwaith mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.
- Adeiladu perthnasoedd effeithiol gyda chleientiaid mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.
- Delio â cheisiadau i ganslo cynhyrchion neu wasanaethau ariannol.
- Prosesu dogfennaeth ar gyfer contractau syml ym meysydd yswiriant bywyd, pensiynau a buddsoddiadau.
- Prosesu ceisiadau busnes ym meysydd yswiriant bywyd, pensiynau a buddsoddiadau.
- Prosesu ceisiadau syml am daliadau yn sgil contractau yswiriant bywyd, pensiynau a buddsoddiadau.
- Darparu gwybodaeth i gwsmeriaid mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.
- Asesu risg ar gyfer newidiadau syml i gontractau yswiriant bywyd, pensiynau a buddsoddiadau.
A llawer mwy…
- Hyd nodweddiadol o 18 mis.
- Sesiwn sefydlu ar gyfer prentisiaid a’u rheolwyr llinell.
- Sesiynau hyfforddiant tiwtor un-i-un a chymorth asesu.
- 4 diwrnod asesu sgiliau hanfodol (2 ddiwrnod paratoi a 2 ddiwrnod tasg fyw).
- Profion cadarnhau sgiliau hanfodol sy’n para dwy awr.
Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Bywyd, Pensiynau a Buddsoddiadau)
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Sgiliau Hanfodol Lefel 1: Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol Lefel 1: Cymhwyso Rhifau
Efallai na fydd sgiliau hanfodol yn berthnasol os gall prentisiaid ddangos eu bod wedi’u heithrio
Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs
Lawrlwytho PDFDiddordeb mewn cofrestru?