Beth yw Twf Sywddi Cymru+?
Yn gryno, mae Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) yn rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl 16–18 oed sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnynt i naill ai gael swydd neu ddechrau hyfforddiant pellach.
Mae 3 llinyn i’r rhaglen:
Man cychwyn i bobl ifanc nad ydyn nhw’n siŵr beth sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Mae’r llinyn hwn yn cynnig treialon gwaith byr, dysgu mewn canolfan ac amrywiaeth o gyfleoedd cyfoethogi.
Wedi’i ddatblygu ar gyfer pobl ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfa benodol. Mae’r llinyn hwn yn cynnig blasu gwaith a lleoliadau sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, cymhwyster Lefel 1 ac amrywiaeth o gyfleoedd cyfoethogi.
I bobl ifanc sy’n barod am gyflogaeth amser llawn. Mae’r llinyn hwn yn cynnig sesiynau cyflogadwyedd, sgiliau paratoi ar gyfer swyddi, hyfforddiant technegau cyfweliad, cymhwyster sgiliau hanfodol a gweithgareddau cyfoethogi.
Sut mae’n gweithio
Gall pobl ifanc fod yn ased gwych a thrwy gymryd rhan yn Twf Swyddi Cymru+ byddwch yn sicrhau bod eich busnes yn cael dewis o’r dalent ifanc yn eich cymuned.
Mae’n rhaglen arloesol a hyblyg. Felly gallwch benderfynu ar y ffordd orau y gall y rhaglen helpu eich busnes, ac ar yr un pryd greu cyfleoedd sy’n newid bywyd i’r person ifanc rydych chi’n ei gefnogi.
I gyflogwyr, mae’r rhaglen yn cynnig cymorthdaliadau cyflog a chymorth wedi’i deilwra i helpu i dyfu eich gweithlu. Yn gyfnewid, rydym yn chwilio am eich help i greu cyfleoedd cyflogaeth, sesiynau blasu gwaith, neu leoliadau profiad gwaith i bobl ifanc.
Llinyn Ymgysylltu a Datblygu
Gyda’r llinyn Ymgysylltu a Datblygu, byddech chi’n gweithio gyda ni i gynnig sesiynau blasu gwaith neu leoliadau profiad gwaith sy’n addas i chi a’n pobl ifanc. Os ydych chi wedi creu argraff ar y person ifanc ar y diwedd, efallai y gallech chi droi hyn yn gyfle swydd trwy raglen Twf Swyddi Cymru+ neu eu hystyried ar gyfer Prentisiaeth.
Mae dysgwyr ar y llinynnau hyn yn derbyn lwfans hyfforddi o hyd at £55 yr wythnos yn dibynnu ar eu horiau.
Llinyn cyflogaeth
Ar y llinyn Cyflogaeth, os penderfynwch gyflogi person ifanc drwy raglen Twf Swyddi Cymru+, byddwch yn derbyn hyd at 50% o gostau cyflogaeth pob person ifanc ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y chwe mis cyntaf a byddant yn parhau i gael arweiniad a hyfforddiant parhaus gennym ni, i gefnogi eu datblygiad gyda chi.
Mae TSC+ ar gael i fusnesau o unrhyw faint mewn unrhyw ddiwydiant yng Nghymru.
Llwybr cyflogaeth:
Rhaid i’r swydd rydych yn ei chynnig fod rhwng 16 a 40 awr yr wythnos, ac am o leiaf chwe mis. Rhaid i unrhyw swyddi a grëir fod yn ychwanegol at anghenion eich gweithlu presennol, a dylech fod wedi ymrwymo i gadw eich gweithiwr y tu hwnt i’r cyfnod chwe mis.
Rhaid i’r rôl gael ei thalu ar gyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’n uwch, ac ni ddylai gael ei chefnogi gan unrhyw gyllid cyhoeddus neu Ewropeaidd arall.
Rhaid i’r person rydych yn dymuno ei recriwtio fod:
- Rhwng 16 a 18 oed
- Ddim mewn addysg amser llawn, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
- Yn byw yng Nghymru
- Wedi’i asesu gan Cymru’n Gweithio fel rhywun sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer un o lwybrau’r rhaglen.
Diddordeb? Cysylltwch â ni
Os ydych chi’n teimlo bod gennych chi’r ymrwymiad, y brwdfrydedd a’r cymhelliant i gefnogi person ifanc i fyd gwaith, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.