16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Mae dwy ran o dair o fusnesau yn y DU yn mynd i’r afael â bwlch sgiliau digidol. Er gwaethaf hyn, mae llythrennedd digidol yn prysur ddod yn un o’r sgiliau mwyaf poblogaidd, yn enwedig mewn cyd-destun proffesiynol.

Mae cael dealltwriaeth gadarn o’r feddalwedd a’r offer rydych yn eu defnyddio yn eich swydd nid yn unig yn gwneud gwaith yn haws, ond hefyd yn fwy effeithlon.

Efallai eich bod yn gallu mewngofnodi i alwad fideo neu fewnbynnu data sylfaenol i daenlen, ond a ydych yn hyderus eich bod yn gwybod yr holl driciau a llwybrau byr sydd gan y rhaglenni hyn, a allai arbed amser ac ymdrech i chi?

Os mai na yw’r ateb, does dim angen edrych ymhellach na chymhwyster Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes ACT.

Wedi’i gwblhau gan bobl mewn rolau proffesiynol sy’n defnyddio cyfrifiadur o ddydd i ddydd, nod y cwrs yw rhoi dealltwriaeth allweddol i ddysgwyr o raglenni cyfrifiadurol proffesiynol sylfaenol megis e-bost, galwadau fideo, apiau negeseuon a phecyn Office neu debyg.

I’r rhai sydd eisoes â gafael hyderus ar y rhaglenni hyn ac sy’n dymuno datblygu sgiliau mwy cymhleth ymhellach, megis dadansoddeg a modelu data, mae ACT yn cynnig cymhwyster Lefel 3.

Gall y cwrs hyd yn oed gael ei ddefnyddio gan gyflogwyr fel hyfforddiant lefel sylfaenol i bob aelod o staff, er mwyn sicrhau bod pawb ar yr un dudalen o ran yr offer digidol maent yn eu defnyddio bob dydd.

Darganfod mwy

Ar Lefel Dau, mae’r cymhwyster yn archwilio pynciau megis rhannu digidol, defnyddio rhaglenni cyffredin fel Teams, Canva a thaenlenni. Bydd dysgwyr hefyd yn cael dealltwriaeth sylfaenol o sut i baratoi dogfennau’n briodol mewn meddalwedd prosesu geiriau, yn ogystal â chreu cyflwyniadau, er nad oes angen cyflwyno er mwyn cwblhau’r cwrs.

Mae modiwlau hefyd ar ddiogelwch ac iechyd a diogelwch, yn ogystal ag unedau eraill mewn taenlenni, e-bost a chyfryngau cymdeithasol, lle gall dysgwyr ddewis yr hyn sy’n berthnasol i’w rôl a’u busnes.

Dywedodd Lucy Wilkinson, rheolwr llwybr gwasanaethau digidol yn ACT: “Mae’r cwrs hwn yn ymwneud â meithrin hyder ac mae’n rhoi ffordd effeithlon i gyflogwyr sicrhau bod gan staff ddealltwriaeth sylfaenol o’r feddalwedd ddigidol maent yn ei defnyddio.

“Gall Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes hefyd roi hwb i effeithlonrwydd cwmni, gan ddysgu’r awgrymiadau, y triciau a’r llwybrau byr ar gyfer y rhaglenni y mae staff yn debygol o’u defnyddio’n rheolaidd, ond nid i’w llawn botensial. O safbwynt personol, mae’r cwrs yn rhoi achrediad ac yn edrych yn wych ar CV.”

Dewch o hyd i’n canllaw cwrs llawn ar gyfer Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 2 yma

Yn ddelfrydol ar gyfer gweinyddwyr lefel uchel, rheolwyr prosiect neu rolau tebyg, mae’r cwrs Lefel Tri yn archwilio meddalwedd cronfeydd data a sut y gellir ei defnyddio i adrodd ar ddata a defnyddio data’n effeithlon.

Gan anelu at bontio’r bwlch rhwng gweinyddu a dadansoddeg, mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar fodelu data a nodweddion uwch offer TG y mae staff eisoes yn gyfarwydd â nhw.

Ychwanegodd Lucy: “Ar Lefel Tri, mae dysgwyr yn cael gwell dealltwriaeth o’r offer maent yn eu defnyddio yn eu rôl, gan roi hwb i effeithlonrwydd yn eu gwaith.

“Os ydych yn gyflogwr, mae’n debygol eich bod wedi buddsoddi mewn offer cydweithio digidol, yn enwedig yn ystod y pandemig – ac a ydych yn cael gwerth eich arian o’r trwyddedau drud hyn?

“Gall Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes sicrhau bod meddalwedd yn cael ei defnyddio i’w llawn botensial.”

Dewch o hyd i’n canllaw cwrs llawn ar gyfer Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 3 yma

Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes mewn 30 eiliad

Pam dewis ACT?

Mae ACT yn un o brif ddarparwyr hyfforddiant Cymru. Mae’n cefnogi unigolion sy’n awyddus i symud ymlaen a busnesau sy’n dymuno uwchsgilio eu gweithlu.

Hyd yma, rydym wedi gweithio gyda mwy na 14,000 o gyflogwyr, gan helpu 75,000 o ddysgwyr i gyflawni eu nodau gyrfaol.