Cadeirydd
Steve oedd Cyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru rhwng 2015 a 2021. Cyn hynny, bu Steve yn gweithio ym maes addysg yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn y DU ac yn rhyngwladol.
Penodwyd Steve yn Rheolwr Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Cyflawni Addysg ar gyfer De-ddwyrain Cymru ym mis Mawrth 2012. Cyn hynny, ef oedd Rheolwr Gyfarwyddwr Gleeds-Cocentra Ltd, cwmni addysg a oedd yn gweithio gyda mwy na 5,000 o ysgolion yn y DU ac yn rhyngwladol, a 147 o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Ar ôl dysgu mewn ysgolion uwchradd yng Nghaint a Bryste, bu Steve mewn rolau Arweinyddiaeth Uwch mewn pedwar Awdurdod Lleol, gan gynnwys rolau uwch ym maes gwella ysgolion yng Nghumbria a Gorllewin Sussex. Roedd ganddo eisoes enw da cadarn am gyflawni, drwy ei brofiad fel Prif Arolygydd Ysgolion a Chyfarwyddwr Addysg mewn dau Fwrdeistref yn Llundain.
Fel Cyfarwyddwr Addysg Ysgolion Llywodraeth Cymru, Steve oedd y gwas sifil uchaf ei reng ym maes addysg yng Nghymru, gan weithio’n uniongyrchol gyda’r Gweinidog Addysg i ddatblygu a chyflwyno’r rhaglen ddiwygio fwyaf arwyddocaol ers datganoli. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n gweithio’n agos gyda’r cynrychiolwyr allweddol o fewn haen ganol addysg yng Nghymru. Arweiniodd hefyd raglenni addysg sylweddol gyda’r OECD a’r Atlantic Rim Collaboratory, sef mudiad addysg byd-eang sy’n hyrwyddo tegwch, rhagoriaeth eang, cynhwysiant, llesiant, democratiaeth, cynaliadwyedd a hawliau dynol mewn systemau o ansawdd uchel sy’n cael eu rhedeg yn broffesiynol.
Ym mis Awst 2021, ymunodd Steve â GroupED Ltd i gefnogi gwaith y cwmni gydag ysgolion ac Awdurdodau Lleol. Ym mis Tachwedd 2021, fe’i penodwyd yn Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Rhoddir y teitl ‘Athro Ymarfer’ i unigolyn er mwyn anrhydeddu a chydnabod y person hwnnw am iddo gyflawni rhagoriaeth academaidd a/neu broffesiynol yn y disgyblaethau hynny sy’n cyd-fynd â bwriadau strategol y brifysgol.