16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Chwiliwch am ein cyfleoedd Twf Swyddi Cymru+

Ydych chi rhwng 16 a 19 oed ac yn awyddus i ennill arian, dod o hyd i annibyniaeth a mynd ar yr ysgol yrfa? Efallai eich bod chi’n chwilio am y swydd iawn, yn penderfynu ar eich camau nesaf mewn addysg neu efallai eich bod chi angen rhywfaint o gefnogaeth i’ch cael chi yno.

Dyna lle gall ein rhaglen Twf Swyddi Cymru+ (JGW+) eich helpu. Mae’n ffordd wych o roi hwb i’ch hyder a chael blas ar waith y gallech fod â diddordeb ynddo. Byddwch hefyd yn cael mynediad at hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi â thâl gyda chyflogwyr yn eich ardal.

Isod mae rhestr o gyfleoedd lleoliadau JGW+ sydd gennym ni ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn datblygu cannoedd mwy o gyfleoedd drwy gydol y flwyddyn, felly os nad oes dim byd sy’n addas i chi ar hyn o bryd, edrychwch yn ôl yn fuan.

 

Nid oes unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd