Mae Acorn, un o brif asiantaethau recriwtio a hyfforddi’r DU, wedi cyflogi pedwar prentis newydd yn Ne Cymru.
Mae Pippa Underdown, 19 oed, o’r Barri ym Mro Morgannwg, yn ymuno â changen Caerdydd; mae Cara Bowen, 17 oed, o’r Glyn, Castell-nedd, yn ymuno â changen Abertawe; ac mae Hannah Nassa, 19 oed, a Nathan Thomas, 18 oed, ill dau o Gasnewydd, yn ymuno â thîm datblygu busnes Acorn sydd wedi’i leoli yn ei brif swyddfa yn Celtic Springs ger Casnewydd.
Mae’r pedwar prentis wedi’u recriwtio fel gweinyddwyr dan brentisiaeth, lle byddant yn cael eu profiad cyntaf o amgylchedd gwaith. Bydd hyn yn arbennig o heriol gan fod y diwydiant recriwtio yn adnabyddus am fod yn hynod gyflym.
Yn ystod eu prentisiaethau, bydd y gweithwyr newydd yn gweithio tuag at gymhwyster galwedigaethol, gan ennill y sgiliau hanfodol sydd eu hangen mewn amgylchedd swyddfa. O ddysgu sut i greu adroddiadau a defnyddio systemau TG cyfredol, i reoli cysylltiadau â chwsmeriaid, bydd yr ymgeiswyr yn cael eu paratoi ar gyfer yr amgylchedd gwaith ac yn cael cyfle i weithio i Acorn yn barhaol. Yn gyfnewid am hynny, bydd y prentisiaid yn dod â syniadau newydd ffres a brwdfrydedd dros ddysgu sgiliau newydd i’r cwmni.
Wrth siarad am y penodiadau newydd, dywedodd Maria Larcombe, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r De: “Rydym yn falch iawn o groesawu ein holl brentisiaid newydd. Mae Cymwysterau Galwedigaethol yn ffordd effeithiol o ddysgu, yn enwedig i’r rhai sy’n ffafrio dysgu drwy waith yn hytrach na thrwy’r ffurf draddodiadol ar addysg. Mae’n ffordd bwerus iawn o gael eich swydd ddelfrydol.”
Ym mis Tachwedd 2011, enwyd Is-adran Hyfforddi Acorn yn Ddarparwr Prentisiaethau’r Flwyddyn yng Nghymru yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru. Roedd y wobr yn cydnabod “hanes y cwmni o arloesi a darparu atebion dysgu a datblygu sy’n ychwanegu gwerth gwirioneddol.”
Dywedodd Helena Williams, Cyfarwyddwr Datblygu Corfforaethol Acorn Learning: “Mae datblygu rhaglenni prentisiaeth pwrpasol neu wedi’u teilwra ar gyfer cyflogwyr yn defnyddio cymysgedd o bartneriaid cyflwyno ac yn sicrhau bod y dysgwr a’r cyflogwr yn derbyn yr hyfforddiant mwyaf addas a phriodol, a bod y canlyniadau gofynnol yn cael eu cyflawni.”