Cyn-Gyfarwyddwr Canolfan Arweinyddiaeth Greadigol a Menter Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ymuno â darparwr dysgu seiliedig ar waith mwyaf Cymru
Mae ALS Training, un o brif ddarparwyr atebion hyfforddi, dysgu a datblygu yng Nghymru, wedi penodi Fiona Argent yn Gyfarwyddwr Cyflwyno newydd.
Mae ALS yn cynllunio ac yn cyflwyno atebion hyfforddi a datblygu i ddiwallu anghenion cyflogwyr a gweithwyr fel rhan o Grŵp ACT a Choleg Caerdydd a’r Fro (CAVC), gan gefnogi 2,300 o brentisiaid bob wythnos i gyflawni eu nodau.
Gyda phrofiad helaeth yn y sector addysg ôl-16, bydd Fiona yn cefnogi tîm cyflwyno gweithredol y sefydliad i sicrhau bod Taith Ddysgu ALS yn parhau i gynnig gwasanaethau gwell i ddysgwyr sy’n astudio ar bob lefel.
O ddysgu cyfunol i atebion cyflwyno 100% ar-lein, bydd y penodiad yn helpu i gefnogi ansawdd yr addysgu a gaiff dysgwyr, ochr yn ochr â’r defnydd o’r technolegau dysgu diweddaraf, er mwyn creu canlyniadau cadarnhaol i bawb a chyfrannu at lwyddiant ehangach ALS yn gyffredinol.
Yn flaenorol, roedd Fiona yn Gyfarwyddwr Prosiect yng Nghanolfan Arweinyddiaeth Greadigol a Menter Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ei chefndir hefyd yn cynnwys hyfforddi staff ar gyfer Gŵyl Ardd Glyn Ebwy, cyflawni rôl genedlaethol yn arwain y gwaith o weithredu’r ‘Prentisiaethau Modern’ gwreiddiol, a gweithio fel Pennaeth Ansawdd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd: “Dechreuais fy ngyrfa drwy greu a chyflwyno atebion dysgu, ac yna arweiniodd y llwybr a ddilynais fi at ochr ansawdd y broses ddysgu. Cafodd hyn ei ehangu ymhellach drwy fy ymwneud ag atebion i gyflogwyr a gweithredu prosiectau ar lefel genedlaethol a lleol.”
“Mae fy mhrofiadau ar draws pob un o’r agweddau hyn ar ddysgu ôl-16 bellach wedi dod â mi’n ôl i’r man cychwyn gydag ALS, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.”
Mae Is-adran Dysgu a Datblygu ALS wedi’i hachredu i gyflwyno rhaglenni datblygu gan Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cymru, a’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).
Mae hefyd yn ddarparwr cyrsiau achrededig y Sefydliad Yswiriant Siartredig (CII) ac EAL, y sefydliad dyfarnu arbenigol ar gyfer peirianneg a gweithgynhyrchu.
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, roedd y sefydliad yn cael ei adnabod gynt fel Acorn Learning cyn partneru ag ACT Training ar ôl iddo gael ei gaffael gan Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro yn 2018. Heddiw, mae’n rhan o ddarparwr dysgu seiliedig ar waith mwyaf Cymru ac yn ganolfan sgiliau bwerus ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Cymru a thu hwnt.
Dywedodd Sarah John, Cyfarwyddwr Bwrdd ALS: “Mae sicrhau Fiona ar gyfer rôl Cyfarwyddwr Cyflwyno yn gyfle gwych i ALS symud ymlaen wrth iddo barhau i ganolbwyntio ar ddatblygu a gweithredu ein darpariaeth Brentisiaethau ymhellach, yn enwedig ym meysydd gwasanaethau Digidol, Proffesiynol ac Yswiriant. Mae enw da Fiona yn mynd o’i blaen, ac fel tîm rydym yn edrych ymlaen yn fawr at iddi ddechrau.”
Cliciwch ar y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am ALS Training a’i gyrsiau.