Mae angerdd yr arweinydd tîm Laura Chapman dros ddysgu wedi’i wobrwyo â gwobr genedlaethol uchel ei bri.
Enwyd Laura, sy’n gweithio i MotoNovo Finance yng Nghaerdydd, yn Brentis y Flwyddyn yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.
Ymunodd y ferch 21 oed, a oedd gynt yn ddisgybl yn Ysgol Maesteg, â’r cwmni cyllid ceir a benthyciadau ar gontract cyfnod penodol o 18 mis pan oedd yn 17 oed, ar ôl dewis ennill cyflog a dysgu drwy brentisiaeth. Trawsnewidiodd y profiad hi o fod yn ei harddegau swil i fod yn arweinydd tîm hyderus.
Symudodd ymlaen yn gyflym o Ddiploma BTEC Lefel 2 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG i Brentisiaeth mewn TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu, Tystysgrif ITIL Fersiwn 4, ac mae bellach yn cwblhau ILM Lefel 3 mewn Rheolaeth gydag ALS Training.
Fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac ymarferwyr, trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).
Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau arbenigol a sefydliad dyfarnu ar gyfer diwydiant. Mae’r gwobrau’n amlygu cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
“Rwyf mor hapus a balch fy mod eisiau crio,” meddai Laura yn emosiynol ar ôl derbyn ei gwobr. “Mae’r wobr hon yn bersonol iawn oherwydd mae’n golygu fy mod yn ddigon da.
“Rwyf wedi cael llawer o amheuon ynghylch fy ngallu, ond mae hyn bellach yn dangos i mi fy mod yn dda ac yn gallu cyflawni pethau yn fy ngyrfa. Rwyf wedi cael cymorth anhygoel ac mae gen i reolwr gwych.”
Wrth siarad am ei thaith ddysgu, ychwanegodd Laura: “Gyda phob cymhwyster, rwyf wedi gallu cymhwyso’r hyn rwyf wedi’i ddysgu’n uniongyrchol i’m rôl ar unwaith. Maent yn mynd law yn llaw, felly mae’n gwneud synnwyr i barhau i ddysgu. Rwyf eisoes wedi gosod fy ngolygon ar Brentisiaeth Uwch mewn Rheolaeth!
“Rwy’n rhannu fy stori gyda’m tîm ac yn dweud wrthynt pa mor ddefnyddiol yw prentisiaethau ar gyfer datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch gyrfa.”
Mae’r wybodaeth a’r sgiliau y mae wedi’u hennill wedi rhoi mwy o hyder iddi arwain tîm o wyth dadansoddwr, datrys problemau TG i fwy o gwsmeriaid a chael effaith gadarnhaol ar y busnes.
Yn fuan ar ôl cael ei dyrchafu’n arweinydd tîm, lleihaodd ôl-groniad yn sylweddol drwy gyflwyno dangosfwrdd i flaenoriaethu gwaith a oedd yn dod i mewn. Mae hefyd wedi cyflwyno camau i wella morâl a pherfformiad staff ac wedi cynyddu cynhyrchiant 50% drwy annog aelodau’r tîm i gydweithio a chynhyrchu syniadau.
Mae Laura hefyd yn gweithio gyda staff datblygu talent y cwmni ac ALS Training i hyrwyddo prentisiaethau i’w thîm.
Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Hoffwn longyfarch nid yn unig enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.
“Mae arddangos eu cyflawniadau yn bwysig gan ei fod yn ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog mwy o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.”
Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Rwyf am longyfarch yr holl ymgeiswyr terfynol a’r enillwyr. Mae straeon fel eu rhai nhw yn pwysleisio’r effaith sylweddol y gall prentisiaethau ei chael, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaus a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Byddant yn rhan hollbwysig o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.”
Am ragor o wybodaeth am recriwtio prentis, ewch i: https://gov.wales/apprenticeships-genius-decision neu ffoniwch 03000 603000.