16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Dysgwyr Newyddion

Mae datblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol mewn gofal iechyd, lle mae datblygiadau ac arloesedd yn gyson. I Al Croose, Arweinydd Clinigol tîm Gwasanaeth Adfer Organau Cenedlaethol Caerdydd (NORS), mae buddsoddi yn ei sgiliau arwain wedi helpu i gryfhau ei waith ei hun a gwaith y gwasanaeth mae’n ei arwain. 

Fel Arweinydd Clinigol, mae Al yn goruchwylio darpariaeth glinigol tîm llawfeddygol argyfwng arbenigol sy’n darparu llawfeddygaeth adfer organau abdomenol a thechnoleg darlifiad organau cymhleth ledled y DU. Ochr yn ochr â chefnogi datblygiad staff a chynnal safonau uchel o ofal cleifion, mae’n gyfrifol am arwain gwelliannau gwasanaeth. 

Wedi chwe blynedd gyda thîm NORS, camodd Al i rôl arwain a chydnabod pwysigrwydd adeiladu ar ei sgiliau rheoli. 

“Rwy’n credu’n gryf mewn datblygiad proffesiynol parhaus,” meddai Al. “Yn enwedig o fewn gofal iechyd, gan fod y sector yn esblygu’n gyson. 

“Roeddwn i eisiau datblygu fy nealltwriaeth o arferion arweinyddiaeth a rheoli ymhellach ac roedd y cymwysterau ILM yn ymddangos fel cyfle gwych i gryfhau fy ngwybodaeth a gwella fy effeithiolrwydd fel arweinydd.” 

Trwy gydol ei gymwysterau Rheoli ILM Lefel 4 a Lefel 5, canfu Al sawl pwnc yn arbennig o werthfawr, yn enwedig hyfforddi, sydd wedi cael effaith barhaol ar y ffordd mae’n arwain ei dîm. 

“Roedd hyfforddi yn arbennig o ddylanwadol,” ychwanegodd. “Gan ei fod yn cyd-fynd yn agos â fy arddull addysgu ac arweinyddiaeth. Rwy’n arwain tîm clinigol medrus a phrofiadol iawn, ac mae hyfforddi wedi dod yn ddull gwerthfawr sy’n galluogi unigolion i ddod i atebion eu hunain gyda chefnogaeth ac arweiniad, yn hytrach na dweud wrthynt beth i’w wneud. Mae hyn wedi creu amgylchedd dysgu mwy cadarnhaol ac adeiladol i bawb sy’n cymryd rhan.” 

Roedd Al hefyd yn gweld y modiwlau sy’n cwmpasu diogelwch seicolegol, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chynllunio strategol yn fuddiol, gan ddarparu gwybodaeth ymarferol gellid ei gymhwyso’n uniongyrchol i gyflwyno gwasanaethau a mentrau newydd. 

Mae’r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y cymwysterau eisoes wedi cael effaith ac maent hyd yn oed wedi caniatáu i Al a’r tîm gefnogi cyflwyno gwasanaeth arloesol Normothermic Regional Perfusion yng Nghaerdydd. 

“Roedd gweithredu’r gwasanaeth hwn yn gofyn am ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, cynllunio manwl, a rheoli newid effeithiol,” esboniodd Al. “Mae’r sgiliau a’r wybodaeth enillais drwy’r cymwysterau yn cefnogi’r gwaith hwn yn uniongyrchol, gan helpu i sicrhau ymgysylltiad cryf â’r tîm a mabwysiadu arferion ymarferol yn llwyddiannus, yn ogystal â chadw’r cynllun ar y trywydd iawn i gyrraedd targedau sefydliadol.” 

Wrth edrych yn ôl ar ei daith dysgu, canmolodd Al y gefnogaeth a gafodd trwy gydol y ddau gymhwyster. 

Dywedodd Al: “Roedd y gefnogaeth gan ACT yn ardderchog. Cefais gysylltiad rheolaidd â’m haseswr, a oedd yn hygyrch, hyblyg ac yn ymateb i’m hanghenion. Roedd y canllawiau a ddarparwyd yn glir ac wedi’u teilwra i’m rôl, gan ei gwneud hi’n haws cysylltu fy nysgu â senarios gweithle go iawn.” 

Tynnodd sylw hefyd at werth y cyfleoedd dysgu strwythuredig a pharhad gweithio gyda’r un aseswr ar draws y ddwy raglen. 

“Roedd sawl cwrs ar-lein ac wyneb yn wyneb i mi fynychu. Roedd gen i fynediad i’r llyfrgell o adnoddau ar-lein hefyd yn ddefnyddiol iawn,” meddai. “Mae’r adnoddau a’r sesiynau dysgu strwythuredig wedi fy helpu i aros ar y trywydd iawn a magu hyder wrth i mi ddatblygu. Roeddwn hefyd yn ei chael hi’n fuddiol iawn gallu aros gyda’r un aseswr trwy’r ddau gymhwyster.” 

Roedd cefnogaeth ei gyflogwr hefyd yn chwarae rhan bwysig yn ei helpu i gwblhau’r cymwysterau yn llwyddiannus. 

“Cefais gefnogaeth ardderchog gan fy nghyflogwr,” meddai Al. “Roedd fy rheolwr llinell yn wych, gan sicrhau bod gen i amser i fynychu sesiynau dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb, yn ogystal â chyfarfodydd adolygu. Fe wnaethant hefyd fy annog i gymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu o fewn ein cyfarwyddiaeth, a roddodd brofiad gwerthfawr i mi a chaniataodd i mi gymhwyso llawer o’r technegau arweinyddiaeth a rheoli a drafodwyd yn ystod y cymwysterau.” 

I unrhyw un sy’n ystyried dysgu seiliedig ar waith, dywedodd Al: “Byddwn yn ei argymell yn fawr. Roeddwn i’n ei chael hi’n hynod fuddiol yn bersonol ac yn broffesiynol. Un o’r manteision mwyaf yw gallu ymgymryd â dysgu ochr yn ochr â’ch rôl bob dydd a chymhwyso’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu mewn sefyllfaoedd gweithle go iawn. 

“[Wedi dweud hynny], fy nghyngor fyddai sicrhau eich bod chi’n deall cynnwys y cwrs a’r llwyth gwaith cyn cofrestru, gan fod rhai cymwysterau yn fwy heriol nag eraill. Bydd dewis cwrs sy’n cyd-fynd â’ch nodau gyrfa a’ch diddordebau yn eich helpu i gael y gorau o’r profiad.” 

Er bod Al yn hapus yn ei swydd bresennol, mae ei ymrwymiad i ddysgu gydol oes yn parhau i fod mor gryf ag erioed. 

“O ran gyrfa, rydw i’n union lle rydw i eisiau bod ar hyn o bryd,” esboniodd Al. “Rwy’n wirioneddol mwynhau fy rôl ac mae cydbwyso ymrwymiadau clinigol ac ar alwad gyda chyfrifoldebau arweinyddiaeth a rheoli yn rhywbeth rwy’n ei weld yn werth chweil ac yn foddhaol. 

“Un nod hoffwn ei gyflawni’n arbennig yw ennill cymhwyster hyfforddi yn y gweithle cydnabyddedig, gan fy mod yn credu bod hyfforddi yn offeryn pwerus ar gyfer cefnogi unigolion a datblygu timau perfformiad uchel.” 

Rhannwch