Mae mwy na miliwn o bobl ifanc ledled y DU ar hyn o bryd yn NEET (nid mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant). Ar ben hyn, mae bron i hanner pobl ifanc Prydain yn parhau i fod yn ansicr am eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Yn sgil Adolygiad Milburn, mae’r ystadegau hyn wedi siglo’r cyhoedd yn gyffredinol, fodd bynnag i’r rhai sy’n gweithio yn y sector hyfforddiant ac addysg nid yw’n ddim byd newydd nac yn syndod.
Mae’r trawsnewidiad rhwng addysg a gwaith wedi parhau i fod yn bwnc llosg ers blynyddoedd bellach, gyda llawer yn dweud y dylai’r sgiliau rydyn ni’n eu dysgu yn yr ysgol alinio’n well â’r rhai sydd eu hangen yn y gweithle. Adleisiodd adolygiad diweddar Alan Milburn hyn, gan rybuddio bod y DU mewn perygl o greu ‘cenhedlaeth goll’ os na fyddwn yn cryfhau’r trawsnewidiad hwn. Yn gryno, mae gormod o bobl ifanc yn gadael addysg heb yr hyder a’r profiad y mae gwaith yn ei ddarparu.
Mewn ymateb i hyn, cyhoeddodd Addysg a Chyflogwyr ei adroddiad Profiad Gwaith: Gorffennol, Presennol a Dyfodol, gan dynnu sylw at y ffaith bod pobl ifanc sydd â lefelau uchel o ymgysylltiad â chyflogwyr tra’n dal mewn addysg yn 80 y cant yn llai tebygol o ddod yn NEET na’r rhai sydd â’r amlygiad lleiaf.
Canfu’r adroddiad hefyd fod pedair o bob pum ysgol yn dal i ddisgwyl i ddisgyblion drefnu eu lleoliadau profiad gwaith eu hunain, sy’n golygu bod cyfleoedd yn aml yn cael eu pennu gan gysylltiadau teuluol yn hytrach na gallu neu ysfa unigol. Mae hyn yn gwbl annheg ac eto mae’n parhau i fod yn norm. Er mwyn i newid go iawn ddigwydd, ac er mwyn i symudedd cymdeithasol wella, rhaid i fynediad i ddysgu yn y gweithle fod yn hygyrch i bawb waeth beth fo’u cod post neu gysylltiadau personol.
Hyd yn oed os nad yw dysgwr yn siŵr o’r llwybr gyrfa y byddant yn cychwyn arno yn y pen draw, mae treulio amser yn y gweithle yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i bobl ifanc ar wahanol yrfaoedd tra’n eu helpu i ddatblygu hyder, sgiliau cyfathrebu a dealltwriaeth o ddisgwyliadau proffesiynol.
Er bod profiad gwaith wythnos neu bythefnos o hyd yn flas buddiol, dim ond ychydig gall ei gyflawni. Daw cyfleoedd sy’n newid bywydau pan fydd lleoliadau gwaith yn dod yn rhan o daith ehangach i gyflogaeth.
Dyna lle mae dysgu seiliedig ar waith yn camu mewn i chwarae rôl bwysig.
Yn ACT, rydym yn gweld y manteision sydd gan ddysgu seiliedig ar waith, nid yn unig ar unigolion, ond ar fusnesau ac economi ehangach Cymru. P’un a yw dysgwr yn archwilio ei yrfa gyntaf, yn ailadeiladu hyder neu’n datblygu sgiliau ar gyfer diwydiant penodol, mae profiad ymarferol ynghyd â dysgu traddodiadol yn creu cyfleoedd nad yw ystafelloedd dosbarth yn unig bob amser yn gallu eu darparu.
Mae’r sgwrs ynghylch cyflogaeth ieuenctid yn aml yn canolbwyntio ar ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant, ond mae gan gyflogwyr rôl yr un mor bwysig i’w chwarae.
Ledled Cymru, mae prinder sgiliau yn parhau i effeithio ar fusnesau o bob maint, gan roi pwysau ar gynhyrchiant, twf a lles y gweithlu. Yr ateb i hyn yw buddsoddi mewn talent ifanc a datblygu gweithlu ar gyfer y dyfodol.
Dyna pam greodd ACT yr Addewid Cyflogwr, gan helpu busnesau ledled Cymru i gynnig lleoliadau ystyrlon i bobl ifanc ar ei raglen Twf Swyddi Cymru+.
Mae’r addewid yn tynnu llawer o’r rhwystrau gall atal cyflogwyr rhag cynnig lleoliadau. Mae busnesau’n derbyn cymorth drwy gydol y broses ac mae dysgwyr yn cael eu talu drwy’r rhaglen. Mae hyn yn golygu gall cyflogwyr ganolbwyntio ar ddatblygu hyder person ifanc a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo; eu helpu i ddod yn aelod gwerthfawr o’u tîm.
Mae effaith y partneriaethau hyn eisoes i’w gweld ledled Cymru. Ers ei lansio yn hydref y llynedd, mae mwy nag 80 o gyflogwyr wedi llofnodi’r addewid, gan gynnig gwaith i dalent newydd na fyddai wedi cael y cyfle fel arall.
Roedd Sarah Bruton, Rheolwr Gyfarwyddwr Captiva Spa yng Nghaerffili, ymhlith y cyflogwyr cyntaf i gydweithio ag ACT a chynnig lleoliadau yn ei sefydliad.
“Yn hytrach na chwyno am y bwlch [sgiliau], roedden ni’n meddwl ‘beth am fod yn rhan o’r ateb?'” meddai ar y pryd. “Rydyn ni wedi gweld dysgwyr yn tyfu’n aruthrol mewn ychydig fisoedd. Mae eu cyfathrebu yn gwella, eu hyder yn tyfu, ac maen nhw’n dod yn asedau gwirioneddol i’r busnes.”
Yn ACT, mae ein cynghorwyr yn gweithio’n agos gyda dysgwyr a chyflogwyr ym mhob lleoliad, gan sicrhau bod busnesau’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth helpu pobl ifanc i fuddio gymaint â phosibl o’r profiad. I lawer o ddysgwyr, mae’r lleoliadau hyn yn dod yn gam cyntaf tuag at brentisiaethau, hyfforddiant pellach neu gyflogaeth barhaol.
Fel mae’r adroddiad yn tynnu sylw ato, mae ymgysylltiad cynnar â chyflogwyr yn gwella hyder, yn ehangu dyheadau ac yn lleihau’r tebygolrwydd bydd pobl ifanc yn cael eu datgysylltu o addysg neu gyflogaeth yn sylweddol. Ond os ydym o ddifrif am leihau nifer y bobl ifanc sy’n dod yn NEET, mae angen partneriaethau cryfach rhwng addysg, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant. Dylai profiad gwaith fod yn rhan o daith ehangach i waith, gan roi cyfle i berson ifanc ddatblygu’r sgiliau, y profiad a’r hyder sydd eu hangen i adeiladu gyrfa lwyddiannus.
Trwy agor eu drysau i bobl ifanc, mae cyflogwyr yn cynnig llawer mwy na lleoliad gwaith yn unig. Maent hefyd yn buddsoddi mewn talent y dyfodol, yn cryfhau eu gweithlu eu hunain ac yn helpu i adeiladu dyfodol mwy medrus i Gymru.
Os hoffech ddysgu mwy am yr Addewid Cyflogwr a chynnig cyfle i ddysgu, gallwch ymweld â thudalen Cyflogwr ACT yma.