16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Blog

Ar ddiwedd y llynedd, tynnodd yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr sylw at y ffaith bod buddsoddiad mewn hyfforddiant ymhlith busnesau’r DU wedi gostwng i’w lefelau isaf ers dechrau tracio yn ôl yn 2011. Roedd hyn yn dangos bod sefydliadau’n tynhau eu cyllid, mewn hinsawdd gynyddol heriol, y dioddefwr cyntaf yw’r gyllideb Dysgu a Datblygu. 

Ond does dim rhaid i dorri costau hyfforddiant olygu gostyngiad mewn ansawdd neu oedi mewn datblygiad unigol a sefydliadol. Mae hyn oherwydd nad yw hyfforddiant yn dibynnu ar fuddsoddiad mawr, ond ar ystyriaeth well o’ch anghenion, cynllunio’n ofalus a sicrhau eich bod yn gweithio i’ch cryfderau. 

Yn ogystal â hyn, mae busnesau Cymru yn gallu cael mynediad at ddysgu seiliedig ar waith wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Golyga hyn mai’r unig fuddsoddiad mae angen iddynt ei wneud yw amser a sicrhau bod eu gweithwyr yn cael eu cefnogi trwy gydol taith y dysgwr. 

Dyma rai pethau i’w hystyried.

Dyw hyfforddiant ddim yn ‘tick box exercise’
Ni ddylid trin hyfforddiant fel rhywbeth mae rhywun yn ei wneud oherwydd bod rhaid iddyn nhw. Dydy presenoldeb yn unig ddim yn creu’r gwerth, yn hytrach y newid mae’n ei gynhyrchu o ganlyniad i’r hyn a ddysgwyd yw’r hyn sy’n werthfawr. Mae hyfforddiant da yn herio sut mae person yn perfformio, sut mae tîm yn gweithredu a sut y gall busnes yrru newid cadarnhaol. 

Mae sefydliadau sy’n gwneud y mwyaf o’u cyllideb hyfforddi yn symud y cwestiwn o ‘pa hyfforddiant ddylem ni ei brynu?’ i ‘beth sydd ei angen arnom i’n pobl wneud yn well?’ Mae’r newid meddwl yma yn ail-fframio dysgu fel strategaeth yn hytrach na phryniant un tro.

Mae talent o’ch blaenau
Cyn chwilio yn allanol, mae’n werth edrych yn fanylach ar yr hyn sydd gennych yn eich sefydliad. Mae llawer o fusnesau yn cymryd yn ganiataol nad oes ganddynt sgiliau penodol pan, mewn gwirionedd, dydyn nhw heb gael y cyfle i ddod i’r amlwg eto. Mae gwybodaeth yn aml yn eistedd yn anffurfiol o fewn timau, wedi’u hadeiladu trwy brofiad ond heb ei gydnabod na’i rannu’n ffurfiol. 

Gall gweithwyr yn aml ddod yn arbenigwyr yn ddamweiniol yn eu maes, gyda chyfoeth o wybodaeth gallent fod yn ei rhannu ag eraill. Ac nid rhannu yn unig o fewn eu tîm ond i’r sefydliad ehangach i helpu eraill i gael mewnwelediad a sgiliau newydd. Trwy ddefnyddio gwybodaeth staff mewnol, gall busnesau leihau gwariant diangen a rhannu sgiliau sy’n arbennig o berthnasol i’w gweithrediadau.

Sicrhau mai newid yw canolbwynt eich ffocws
Her gyffredin mewn dysgu a datblygu yw canolbwyntio ar yr hyfforddiant ei hun yn hytrach na’r effaith gall ei gael. Mae’n hawdd mesur faint o bobl a fynychodd gwrs neu gofrestru mewn cymhwyster, ond llawer anoddach mesur pa newid mae’n ei gynhyrchu. 

Mae’r hyfforddiant mwyaf effeithiol yn uniongyrchol gysylltiedig â heriau busnes go iawn ac yn rhoi cyfle i bobl gymhwyso sgiliau newydd ar unwaith. Pan fydd dysgu yn gysylltiedig â nodau ymarferol, mesuradwy, sy’n gysylltiedig â rôl unigolyn, mae’n dod yn rhan o waith bob dydd – sy’n golygu bod newid yn teimlo fel datblygiad naturiol yn hytrach na thasg arall wedi’i hychwanegu at y rhestr. 

Wrth edrych ar opsiynau hyfforddi, cadwch y nodau sydd gennych mewn cof a sut y bydd yr hyfforddiant hwn yn helpu i’w cyflawni

Mae prentisiaethau ar gyfer pawb
Mae prentisiaethau yn aml yn cael eu camddeall fel rhai ar gyfer dechreuwyr newydd neu rolau lefel mynediad yn unig. Nid yw hyn yn wir, mewn gwirionedd, maent yn cael eu cwblhau gan weithwyr proffesiynol ar bob cam o’u gyrfaoedd gan eu bod yn cynnig llwybr hyblyg i ddatblygu sgiliau yn y swydd. 

O gael mewnwelediad gwell i offer digidol i ddod yn rheolwr mwy hyderus, mae dysgu seiliedig ar waith yn cynnig dilyniant mewn amrywiaeth eang o bynciau.  

Gweithiodd ACT, darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru, gyda mwy na mil o sefydliadau i helpu i ddatblygu eu staff. Mae’r tîm yn gweithio gyda busnesau i ddeall eu nodau, gan sicrhau bod hyfforddiant yn dod yn ddull strategol ar gyfer twf i’r dysgwr unigol a’i gyflogwr.

 

Os ydych chi’n edrych ar eich cyllideb hyfforddi 26/27 ar hyn o bryd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio na ddylai’r cwestiwn pwysicaf fod ‘pa hyfforddiant alla i ei fforddio?

Yn hytrach, dylai fod yn ‘ydw i’n gwneud y mwyaf o’r cyllid sydd ar gael i mi?’ ‘Ydw i’n datblygu’r bobl sydd gen i yn barod?’ ac ‘A yw’r hyfforddiant yn dod â’r canlyniadau sydd eu hangen arnom?’ Oherwydd yn y pen draw, nid y sefydliadau sy’n gwario fwyaf ar hyfforddiant fydd ar y blaen eleni, ond y rhai sy’n meddwl am sut gall dysgu achosi’r newid mwyaf. 

Rhannwch