16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Mae Thomas James, 38, wastad wedi bod yn ddysgwr brwd, gan ymgymryd ag amrywiaeth o brentisiaethau drwy gydol ei yrfa. O gymhwyster Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth i Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes, mae ganddo gyfoeth o wybodaeth a phrofiad!

Fel Cydlynydd Prosiect i Cwmpas, asiantaeth datblygu economaidd, roedd Thomas yn awyddus i ehangu ei wybodaeth am y cyfryngau cymdeithasol ymhellach ac fe gofrestrodd ar gyfer cymhwyster Lefel 3 Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes.

“Roeddwn i’n chwilio am rywbeth newydd i’w wneud ac roedd y cyfryngau cymdeithasol yn rhan o fy rôl lle roeddwn i’n teimlo y gallwn ddysgu mwy. I mi, roedd y cymhwyster yn cynnig cyfle dysgu am ddim y byddwn yn cael achrediad amdano ar y diwedd.”

Mae Prentisiaeth Lefel 3 Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau cyfryngau digidol y gellir eu trosglwyddo ar draws llawer o sectorau. Drwy arfogi dysgwyr â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i gefnogi systemau, prosesau a gwasanaethau busnes, mae’r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd fwy effeithlon a chynhyrchiol.

Wrth siarad am y cymhwyster, dywedodd Thomas, “Rwyf wir wedi mwynhau’r cymhwyster ac roeddwn yn hoffi’r ffaith fy mod yn gallu dewis yr unedau oedd yn gweddu orau i anghenion fy ngwaith. Mae unedau gorfodol i gwmpasu eich gwybodaeth graidd, ond wedyn mae dewis enfawr o unedau y gallwch eu teilwra i’ch anghenion chi. Mae’n eich galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch hyder ar yr un pryd.

“I mi, roedd dysgu am Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) a chynyddu gwelededd brand yn ddysgu hanfodol ar gyfer ymgysylltu. Y canlyniad yw fy mod wedi addasu fy null gweithredu ac mae ymgysylltiad â’m rhwydwaith wedi gwella’n sylweddol heb o reidrwydd hysbysebu.”

Mae Thomas yn gefnogwr cryf o uwchsgilio yn y gwaith ac mae’n credu bod prentisiaethau yn ddewis craff a doeth i unrhyw un sy’n dymuno hybu datblygiad ei yrfa – yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Rwyf wastad wedi bod ag awydd ac uchelgais mawr i wella fy addysg. Roeddwn yn gwybod fy mod yn haeddu gyrfa ystyrlon a mwy o gyfleoedd, ac roeddwn yn cydnabod bod angen i mi ddangos hynny er mwyn gwneud iddo ddigwydd. Fe wnes i fanteisio ar hyfforddiant am ddim yng Nghymru!

“Rwyf wedi gweld newid o fod eisiau Safon Uwch a graddau penodol wrth recriwtio, i fusnesau fel Cwmpas sydd eisiau i bobl feddu ar safon dda o addysg sy’n adlewyrchu’r rôl rydych yn ymgeisio amdani. Dyma lle mae prentisiaethau’n dod i’r amlwg yn fawr! Nid oes gen i radd mewn Rheolaeth, ond mae gen i amrywiaeth o gymwysterau mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Gweinyddu Busnes ac, erbyn hyn, y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n creu pecyn da o sgiliau!

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn arbennig yn hanfodol yn y farchnad heddiw gan eu bod yn galluogi busnesau i ddenu ac ymgysylltu â chwsmeriaid, tra hefyd yn cynyddu cyrhaeddiad y farchnad. Drwy ei gymhwyster Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, gall Thomas lunio a gweithredu syniadau ar gyfer ymgyrchoedd marchnata i hybu busnes a chodi gwelededd ei brosiect gwaith presennol.

“Y peth mwyaf mae’r cymhwyster wedi’i roi i mi yw’r hyder fy mod yn gwneud rhywbeth yn iawn. Rydych yn fwy tebygol o berfformio’n well yn eich swydd os ydych yn teimlo’n hyderus. Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi offer i chi fel bod gennych yr wybodaeth, yr hyder, y profiad a’r gallu i ddeall sut orau i addasu eich dull gweithredu.”

Gall llywio prentisiaeth ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith ymddangos yn llethol, ond mae Thomas yn pwysleisio, gyda chymhelliant a chefnogaeth, fod prentisiaeth yn opsiwn ymarferol i unrhyw un yn y gweithle.

Byddwn yn bendant yn argymell prentisiaethau i unrhyw un. Nid ydynt yn rhywbeth rydych yn ei wneud pan ydych yn ifanc ac yn meddwl nad ydych yn academaidd. Mae’r canfyddiad hwn yn anghywir! Mae prentisiaethau’n ffordd ymarferol o uwchsgilio eich hun, gan ddangos eich bod yn gyfrifol ac yn ymrwymedig i ddysgu, tra’n magu hyder a bod yn ased i’ch gweithle. Hefyd, maen nhw am ddim!

“Mae’r gefnogaeth gan ACT wedi bod yn wych hefyd. Mae’r aseswyr wastad wedi bod wrth law ac wedi rhoi llawer iawn o sicrwydd, arweiniad ac wedi bod yn hynod galonogol a hyblyg. Mae fy ngwerth yn y gweithle wedi cynyddu ers ymgymryd â’m prentisiaethau ac rwyf bellach mewn sefyllfa i rannu fy ngwybodaeth ag eraill yn y busnes.”

Er mai dim ond yn ddiweddar y cwblhaodd ei gymhwyster Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, mae Thomas eisoes wedi gosod ei fryd ar gymwysterau pellach a fydd yn ei alluogi i gyrraedd ei nod o ddod yn Gynghorydd Busnes.

“Rwyf wedi gwneud cais i wneud Hyfforddiant Ymarferydd Cyfrannau Cymunedol, a fydd yn dangos fy sgiliau fel Cynghorydd Busnes. I mi, mae’n ymwneud â diogelu fy nyfodol a meithrin cymaint o sgiliau ag y gallaf.”

Os hoffech ddysgu mwy am Gyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes a sut y gall ddiogelu eich gyrfa ar gyfer y dyfodol, cliciwch yma.