Ynglŷn â’r Cyfle hwn
Mae Concord International yn Gwmni Masnachu sy’n delio’n bennaf yn y sectorau Gofal Personol a Gofal Cartref.
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hunangymhellol, yn gyflwyniadwy, yn hyddysg mewn cyfrifiaduron, â sgiliau trefnu da a gallu gweithio i derfynau amser. Rhaid iddynt fod yn hyderus a chael dull da o siarad dros y ffôn, a chael profiad o ddefnyddio Excel a Microsoft Word.
New Inn, Pontypool
9.00 am – 4.30 pm, Dydd Llun – Dydd Gwener.
Lwfans hyfforddi TSC+ hyd at £60 yr wythnos ynghyd â threuliau teithio.
Dyletswyddau
- Codio anfonebau’n gywir a’u nodi ar Becyn Cyfrifon Sage.
- Paru anfonebau a nodiadau dosbarthu – delio ag unrhyw ymholiadau.
- Cysoni datganiadau cyflenwyr.
- Dyrannu taliadau/derbynebau cwsmeriaid.
- Diweddaru taenlenni/cronfeydd data excel.
- Defnyddio system rheoli stoc bwrpasol a system epos.
- Prosesu archebion cwsmeriaid.
- Gwasanaeth cwsmeriaid yn delio ag ymholiadau cwsmeriaid.
- Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys gweinyddiaeth gyffredinol, gweithredu switsfwrdd ffôn, teipio llythyrau, ffeilio ac ati.
Byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn ac e-bost drwy gydol y broses recriwtio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi manylion cyswllt cyfredol i ni ac yn gwirio’ch negeseuon yn rheolaidd.