16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Astudiaeth achos

Mae Gwobrau Cyllid Cymru yn gydnabyddiaeth flynyddol o’r unigolion a’r busnesau dawnus sy’n rhan o dirwedd ariannol Cymru.

Ymhlith enillwyr eleni – a oedd yn cynnwys cyfarwyddwyr cyllid, gweithwyr cyflogres a thimau busnes – roedd Jed Lewis, a enillodd deitl Prentis Cyllid y Flwyddyn.

Mae Jed, sy’n gweithio i Drafnidiaeth Cymru, wedi bod yn gweithio tuag at ei gymwysterau cyllid gyda’r darparwr hyfforddiant ALS.

Cafodd ei recriwtio’n wreiddiol fel prentis gyda’r gweithredwr rheilffyrdd, gan ymgymryd â chymhwyster Lefel 2 mewn Cyfrifeg (AAT).

Ar ôl cwblhau hwn, symudodd ymlaen i Lefel 4. Er ei bod yn anarferol i ddysgwyr symud ymlaen yn y ffordd hon, rhoddodd ymroddiad ac etheg gwaith Jed, ynghyd ag ansawdd ei gyflawniadau ar Lefel 2, hyder i’w diwtoriaid a’i reolwr llinell mai hwn oedd y llwybr cywir iddo.

Mae Jed bellach yn gweithio tuag at gwblhau’r cymhwyster, gyda’r gobaith o symud ymlaen i gymhwyster Lefel 4 Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig.

Dywedodd Vanessa Hope, Rheolwr Datblygu Corfforaethol yn ALS: “Mae Jed wedi dangos ymroddiad anhygoel i’w waith, gan symud ymlaen yn hyderus drwy ei astudiaethau a dangos gwir ddawn yn y pwnc.

“Ni allem feddwl am neb mwy haeddiannol i dderbyn gwobr Prentis Cyllid y Flwyddyn. Rydym yn gwybod y bydd hyn yn nodi’r cyflawniad mawr cyntaf mewn gyrfa lwyddiannus iawn i Jed.”

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Ken Poole, Cadeirydd panel beirniadu Gwobrau Cyllid Cymru: “Mae enillwyr eleni wedi dangos talent ac ymrwymiad rhyfeddol i ddatblygu’r sector cyllid yng Nghymru. Mae eu cyflawniadau nid yn unig yn amlygu rhagoriaeth unigol a chorfforaethol, ond hefyd yn tanlinellu natur fywiog a chadarn ein cymuned gyllid.”

 

Rhannwch