Disgrifir Gareth Lewis fel ymarferydd dysgu seiliedig ar waith “eithriadol”, sy’n ysbrydoli ei ddysgwyr a’i gydweithwyr gyda’i angerdd a’i frwdfrydedd dros ddysgu a’i ymrwymiad i’r diwydiant yswiriant.
Mae Gareth, 55 oed, o Hirwaun, yn aseswr gyda thîm gwasanaethau ariannol ALS Training yng Nghaerdydd ac yn rhagori yn y ffordd y mae’n cyflwyno Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Yswiriant, gan sicrhau cyfradd basio o 80% ymhlith ei ddysgwyr.
Gan groesawu pob her, Gareth yn aml yw’r pwynt cyswllt cyntaf o fewn y tîm gwasanaethau ariannol ar gyfer cyngor ac arweiniad ar ymholiadau technegol a materion cyflwyno, ac mae hefyd yn hyfforddi ac yn mentora aelodau newydd o’r tîm.
Bellach, mae Gareth wedi cyrraedd rhestr fer fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 fel ymgeisydd terfynol yng nghategori Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn.
Fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac ymarferwyr, trefnir y gwobrau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). EAL yw’r prif noddwr.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd, ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n amlygu cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Mae ei gryfderau yn gorwedd yn ei allu i ysgogi pobl i gredu y gallant gyflawni beth bynnag a ddymunant, ac i addasu’r ffordd y cyflwynir dysgu i weddu i ddysgwyr unigol.
Yn ystod pandemig Covid, datblygodd ei sgiliau digidol a gweithiodd yn agos gyda chyflogwyr i gynllunio deunyddiau ac adnoddau pwrpasol ar gyfer cyflwyno gweithdai o bell i ddysgwyr. Mae’r sgiliau hyn wedi datblygu’n ddysgu cyfunol, lle caiff hyfforddiant bellach ei gyflwyno wyneb yn wyneb ac o bell.
Mae hefyd yn rhagori wrth gefnogi dysgwyr sy’n wynebu heriau iechyd meddwl neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Ymunodd Gareth ag ALS Training fwy na 15 mlynedd yn ôl, ar ôl rheoli swyddfa yswiriant masnachol fach lle bu’n hyfforddi ac yn datblygu staff.
Mae wedi ennill cyfres o gymwysterau i wella ei wybodaeth a’i sgiliau, gan ddechrau gyda Phrentisiaeth mewn Dysgu a Datblygu a Thystysgrif CII Lefel 3 mewn Yswiriant, cyn symud ymlaen i Ddiploma Lefel 4 y Sefydliad Yswiriant Siartredig, a gwblhaodd ym mis Tachwedd diwethaf (2023).
Dywedodd Melanie Hodgson, rheolwr llwybr yn ALS Training: “Mae Gareth yn ymarferydd eithriadol sydd wedi gwneud mwy na’r disgwyl i wella gyrfaoedd a llwybrau’r dyfodol i ddysgwyr. Mae’r adborth rhagorol a gafwyd gan ddysgwyr a chyflogwyr yn siarad drosto’i hun.”
Dywedodd Gareth: “Rwy’n mwynhau fy swydd ac yn ei chael yn werth chweil gweld dysgwyr yn datblygu ac yn gwneud cynnydd. Rwy’n rhoi llawer o amser i DPP ac ymchwil gan ei fod yn rhoi gwybodaeth dechnegol gadarn i mi i gefnogi dysgwyr.”
Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Gareth a’r holl ymgeiswyr terfynol eraill. “Arbenigwyr yfory fydd prentisiaid heddiw, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a chyflogwyr sydd wedi gwneud mwy na’r disgwyl,” meddai.
“Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill ac economi ehangach Cymru yn ysbrydoledig. Dymunaf bob lwc i bob un o’r ymgeiswyr terfynol yn y gwobrau ac yn eu hymdrechion yn y dyfodol.”
Wrth longyfarch yr ymgeiswyr terfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni.
“Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol drwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o gyflawniad, gan sicrhau ar yr un pryd fod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion newidiol y diwydiant.
“Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae cydnabod cyflawniadau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol i hyn.”
Am ragor o wybodaeth, gweler recriwtio prentis neu ffoniwch 03000 603000.