16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Astudiaeth achos Datblygiad Proffesiynol

Mae gyrfa Alisha Edwards o Hengoed, Caerffili, wedi datblygu’n sylweddol ers iddi gwblhau prentisiaeth gydag ALS. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Alisha wedi cael ei dyrchafu’n Gyfarwyddwr, wedi cwblhau ei diploma ac wedi dod yn Llywydd Novus (Grŵp Gweithwyr Proffesiynol Ifanc CII), yn ogystal ag ysgrifennydd pwyllgor CII Caerdydd.

Mae Alisha, 34 oed, yn Gyfarwyddwr bpw Insurance Services Limited, brocer yswiriant annibynnol wedi’i leoli yng Nghasnewydd. Fel Cyfarwyddwr, mae ei rôl yn cynnwys rheoli’r Tîm Gweithredwyr Cyfrifon, rheoli ei phortffolio ei hun o gleientiaid a darparu atebion yswiriant iddynt. Gan ei bod yn awyddus i barhau i ddatblygu ei sgiliau a’i gwybodaeth o fewn y sector, dechreuodd Alisha Ddiploma Uwch mewn Yswiriant gydag ALS.

“Mae gweithio gydag ALS yn wych! Mae’r disgwyliadau’n glir ac mae’r cyfarfodydd cymorth rheolaidd yn hynod ddefnyddiol ar gyfer olrhain cynnydd drwy’r cymhwyster.

Dewisodd Alisha uwchsgilio yn y gwaith drwy brentisiaeth, gan fod hyn yn ei galluogi i ennill sgiliau a gwybodaeth ymarferol wrth weithio yn ei rôl.

“Roedd llwybr y brentisiaeth yn caniatáu i mi gwblhau chwe uned a NVQ, ac roeddwn yn gweld hynny’n llawer haws gan ei bod yn haws darparu tystiolaeth ymarferol, er ei fod yn dibynnu ar arddull dysgu pob unigolyn, mae’n debyg. Mae amser yn brin mewn busnes ac mae’n costio arian, felly os oes gennych aseswr da fel y rhai sydd gennych yn ALS, sy’n rhoi enghreifftiau i chi o’r dystiolaeth y mae angen i chi ei darparu ar gyfer y cymhwyster, mae’n arbed cymaint o amser ac yn caniatáu i chi symud ymlaen at dasg arall. Peth arall a oedd yn arbennig o ddefnyddiol i mi oedd gofyn i aelodau fy nhîm gwblhau holiadur ynghylch pa mor effeithiol oeddwn fel rheolwr. Amlygodd hynny rai meysydd i’w gwella, a gall adborth o’r fath eich gwneud yn rheolwr gwell yn unig, yn ogystal â chyfrannu at eich awydd i wella eich hun fel gweithiwr proffesiynol ac fel person.”

Roedd Alisha o’r farn bod y cymorth a gafodd gan ALS yn amhrisiadwy, ac mae’n argymell y dylai pawb yn y gweithle sy’n ystyried prentisiaeth wneud hynny er mwyn uwchsgilio.

“Byddwn yn argymell prentisiaeth i bobl eraill 100%. Heb unrhyw amheuaeth, mae wedi cynyddu fy ngwerth yn y gweithle. Hefyd, rwyf bellach yn gallu helpu a chefnogi fy nhîm drwy’r un cymwysterau.”

Mae Alisha eisoes wedi dechrau gweld manteision ei chymhwyster, gan iddi ennill Gwobr Seren Gynyddol Hedron Networks 2022 yn ddiweddar. Mae’r wobr yn cydnabod unigolion sydd wedi gwneud cynnydd sylweddol nid yn unig yn eu rôl bresennol, ond hefyd yn eu datblygiad proffesiynol ac yn y diwydiant ei hun.

Er gwaethaf ei rhestr drawiadol o gyflawniadau, mae Alisha eisoes yn canolbwyntio ar y dyfodol.

“Rwy’n dal eisiau parhau â’m datblygiad proffesiynol ac yn bwriadu ennill cymhwyster ACII yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Rwyf hefyd am ennill cymrodoriaeth mewn yswiriant (FCII) erbyn fy mod yn 40 oed!

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Am ragor o wybodaeth am recriwtio prentis, ewch i: https://gov.wales/apprenticeships-genius-decision neu ffoniwch 03000 603000.

 

 

Rhannwch