Ynglŷn â’r cwrs hwn
Mae cymhwyster Rheolwr Cynnyrch Digidol wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â’r angen cynyddol am sgiliau cyflwyno cynhyrchion digidol ar draws pob sector. Mae llawer o sefydliadau wedi mabwysiadu modelau busnes sy’n canolbwyntio mwy ar ddigidol er mwyn diwallu anghenion yr economi ddigidol. Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i gefnogi staff presennol sy’n rheoli, dylunio a chyflwyno cynhyrchion digidol, gan eu helpu i ddatblygu eu harbenigedd a ffynnu yn y dirwedd ddigidol.
Ar gyfer pwy mae’r brentisiaeth?
- Yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy’n datblygu eu gyrfa.
- Yn berffaith ar gyfer gweithwyr sydd am wella eu sgiliau er mwyn ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau digidol.
- Cymhwyster achrededig i weithwyr presennol gadarnhau eu profiad diwydiannol cyfredol.
Cyflymu Twf Gyrfa: Bydd ymgymryd â Phrentisiaeth Rheolwr Cynnyrch Digidol Lefel 4 yn cyflymu datblygiad gyrfa drwy ddarparu llwybr strwythuredig amhrisiadwy i wella galluoedd strategol, technegol ac arwain ym maes cyflwyno cynhyrchion digidol.
Ardystiad a Gydnabyddir gan y Diwydiant: Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd prentisiaid yn ennill ardystiad mawr ei barch a gydnabyddir gan y diwydiant, gan roi mantais gystadleuol iddynt yn y farchnad swyddi. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r arbenigedd a enillir drwy’r brentisiaeth hon, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous.
Dysgu Ymarferol ac yn y Byd Go Iawn: Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol ac yn y byd go iawn. Bydd prentisiaid yn ymarfer sgiliau mewn amgylchedd dosbarth ac yn gallu eu cymhwyso yn y gweithle, gan gydweithio â chydweithwyr profiadol a fydd yn arwain y prentis drwy bob cam o’r broses.
Cwricwlwm wedi’i Deilwra: Mae ein cwricwlwm cynhwysfawr wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion yr economi ddigidol a’r seilwaith y mae’n dibynnu arno. Bydd prentisiaid yn ymdrin â phynciau hanfodol fel Rheoli Systemau TG, Methodolegau ac Arferion Agile, Arwain Cymunedau a Chydweithio, Gwneud Penderfyniadau ar sail Data, a Defnyddio Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr mewn Cyd-destun Agile.
Cynghorwyr Profiadol a Gwybodus: Drwy gydol y brentisiaeth, byddwn yn darparu mynediad at rwydwaith o gynghorwyr profiadol a fydd yn cynnig arweiniad,
cefnogaeth ac adborth. Bydd prentisiaid yn dysgu gan arbenigwyr diwydiant sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad ar draws y sector digidol.
Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cymysgedd o unedau gorfodol.Mae trosolwg byr o’r unedau hyn isod.
- Rheoli Systemau TG
- Datblygu Effeithiolrwydd a Phroffesiynoldeb Personol
- Defnyddio Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr mewn Cyd-destun Agile
- Dwyieithrwydd mewn Rhyngweithiadau â Defnyddwyr
- Rheoli Cynnyrch Digidol
- Methodolegau ac Arferion Agile
- Gwneud Penderfyniadau yn Seiliedig ar Ddata
- Arloesi Cynnyrch a Thechnolegau Newydd
- Arweinyddiaeth a Chydweithio Cymunedol
a mwy.
- Hyd nodweddiadol o 24 mis.
- Sesiwn sefydlu ar gyfer prentisiaid a’u rheolwyr llinell.
- 25 diwrnod o weithdai yn darparu dysgu oddi ar y safle gwaith i gefnogi’r cymhwyster.
- Cefnogaeth gan adnoddau hunan-astudio ar-lein.
- Sesiynau hyfforddiant tiwtor un-i-un a chymorth asesu.
- 4 diwrnod asesu Sgiliau Hanfodol. (2 ddiwrnod paratoi a 2 ddiwrnod tasg fyw) **
- Profion cadarnhau Sgiliau Hanfodol sy’n para 2 awr. **
**Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.
- Diploma Lefel 4 Agored Cymru mewn Rheolwr Cynnyrch Digidol
- Sgil Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau
- Sgil Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu
Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs
Lawrlwytho PDFDiddordeb mewn cofrestru?