Ynglŷn â’r cwrs hwn
Mae Prentisiaeth Cymhwysedd Proffesiynol Lefel 3 i Weithwyr Proffesiynol TG wedi’i llunio ar y cyd â chyflogwyr yng Nghymru. Nod y rhaglen yw rhoi’r prif sgiliau TG sydd eu hangen ar weithwyr i gefnogi rheolaeth ddyddiol ar galedwedd a meddalwedd, ac i reoli risgiau i gyfanrwydd asedau data. Mae’r rhaglen brentisiaeth hon wedi’i chynllunio i ddarparu llwybr galwedigaethol cadarn i ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i lwyddo fel gweithiwr proffesiynol ym maes TG.
I bwy mae’r brentisiaeth?
- Yn ddelfrydol ar gyfer prentisiaid sy’n datblygu eu gyrfa fel gweithwyr proffesiynol TG.
- Yn berffaith ar gyfer gweithwyr sydd am wella eu cymhwysedd proffesiynol ym maes TG.
- Cymhwyster achrededig i weithwyr proffesiynol TG ddilysu eu cymhwysedd a’u gwybodaeth am dechnoleg gwybodaeth.
Cyflymu Twf eich Gyrfa: Bydd ymgymryd â’r brentisiaeth Cymhwysedd Proffesiynol Lefel 3 ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG a Thelathrebu yn darparu’r sgiliau technoleg gwybodaeth hanfodol a’r profiad ymarferol i roi hwb sylweddol i yrfa TG sy’n datblygu ar draws ystod eang o sectorau diwydiannol.
Ardystiad a Gydnabyddir gan y Diwydiant: Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd prentisiaid yn ennill ardystiad a gydnabyddir gan y diwydiant, gan roi mantais gystadleuol iddynt yn y farchnad swyddi. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r arbenigedd a enillir drwy’r brentisiaeth hon, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous.
Dysgu Ymarferol ac yn y Byd Go Iawn: Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol sy’n berthnasol i’r byd go iawn. Bydd prentisiaid yn ymarfer sgiliau yn y gweithle, gan gydweithio â chydweithwyr profiadol a chael cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol ALS a fydd yn eu harwain drwy bob cam o’r broses.
Cwricwlwm wedi’i Deilwra: Mae ein cwricwlwm cynhwysfawr wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion technoleg gwybodaeth sefydliadau ar draws economi Cymru a thu hwnt. Mae prentisiaid yn ymdrin â phynciau hanfodol fel diogelwch systemau, dadansoddi bygythiadau a risgiau, datblygiad parhaus, a phroffesiynoldeb.
Cynghorwyr Profiadol a Gwybodus: Drwy gydol y brentisiaeth, byddwn yn darparu mynediad at rwydwaith o gynghorwyr profiadol a fydd yn cynnig arweiniad, hyfforddiant, cefnogaeth ac adborth.
Mae’r brentisiaeth hon yn cynnwys cyfuniad o unedau gorfodol ac unedau dewisol. Byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa fodiwlau dewisol sydd fwyaf addas i chi ac i’ch rôl swydd.
Mae’r unedau’n cynnwys:
- Gweithio gyda Chaledwedd ac Offer TGCh
- Cymorth o Bell ar gyfer Cynhyrchion neu Wasanaethau
- Diogelwch Systemau TGCh
- Diagnosis Diffygion Technegol
- Gosod ac Uwchraddio Meddalwedd
- Profi Systemau TGCh
- Cyngor ac Arweiniad Technegol
A llawer mwy…
- Hyd nodweddiadol o 21 mis.
- Sesiwn sefydlu ar gyfer prentisiaid a’u rheolwyr llinell.
- Sesiynau hyfforddi tiwtor ac cymorth asesu un-i-un.
- Cefnogaeth gan adnoddau astudio annibynnol ar-lein.
- 4 diwrnod asesu sgiliau hanfodol. (2 ddiwrnod paratoi a 2 ddiwrnod tasg fyw)
- Profion cadarnhau sgiliau hanfodol dwy awr o hyd.
Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.
- Diploma Pearson BTEC Lefel 3 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer TG
- Tystysgrif Pearson BTEC Lefel 3 mewn Systemau ac Egwyddorion TGCh
- Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau
Efallai na fydd y sgiliau hanfodol yn berthnasol os gall prentisiaid ddangos eu bod wedi’u heithrio
Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs
Download PDFOes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?