Yn ddiweddar, mae ACT, darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru, wedi pasio ei ail-ardystio ar gyfer safon ISO 14001.
ISO 14001 yw’r safon a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer systemau rheoli amgylcheddol. Yn dilyn archwiliad allanol annibynnol, mae ACT wedi bodloni’r gofynion sydd eu hangen i reoli a lleihau effaith amgylcheddol ei weithrediadau yn effeithiol.
Mae’r ardystiad yn cwmpasu pob agwedd ar reolaeth amgylcheddol ACT, o leihau gwastraff a gwella effeithlonrwydd ynni ar draws ei ganolfannau i ystyried effaith amgylcheddol ehangach ei weithgareddau a’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu.
Daw cadw ISO 14001 ar adeg pan mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn dod yn ystyriaeth gynyddol bwysig i sefydliadau ar draws pob sector. Mae newid yn yr hinsawdd, rheoli adnoddau a gwytnwch amgylcheddol bellach yn cael eu cydnabod fel heriau busnes hirdymor sylweddol, gyda disgwyl i sefydliadau ddangos nid yn unig ymwybyddiaeth amgylcheddol ond cynllun gweithredu.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Cynaliadwyedd, Hannah Mayled, a sicrhaodd fod ACT yn cadw ei achrediad ISO 14001: “Pob blwyddyn mae Fforwm Economaidd y Byd yn cyhoeddi eu Hadroddiad Risgiau Byd-eang. Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd eleni yn dangos bod pump o’r 10 risg mwyaf disgwyliedig yn amgylcheddol, gyda’r risg uchaf yn ddigwyddiadau tywydd eithafol.
“Mae eleni wedi dechrau dangos yr effeithiau mae newid yn yr hinsawdd yn amlygu yn y DU gyda glaw eithafol, llifogydd, gwres a thanau gwyllt yn dod yn fwy cyffredin ac aflonyddgar. Wrth symud ymlaen, mae’n debygol bydd y digwyddiadau hyn yn cael effaith gynyddol fawr ar wahanol feysydd o gymdeithas a’n gweithgareddau o ddydd i ddydd.
“Nawr pan edrychwn ar heriau hirdymor i fusnes, mae risgiau amgylcheddol yn dominyddu’r dirwedd.
“Mae rhan o’r broses cydymffurfio ISO14001 yn gofyn i ACT edrych ar yr holl risgiau a chyfleoedd amgylcheddol yr ydym yn eu hwynebu fel busnes. Mae cydymffurfio â’r safon yn golygu creu system rheoli amgylcheddol sy’n gofyn sut gallwn baratoi’n well ar gyfer yr heriau hyn fel sefydliad, a sut gallwn wella ein perfformiad amgylcheddol yn barhaus. Mae hyn yn golygu bod ACT nid yn unig yn lleihau ei effaith ar yr amgylchedd bob blwyddyn, mae hefyd yn fwy gwydn i risgiau amgylcheddol wrth iddynt gael eu hasesu’n barhaus.
“Mae cynnal ardystiad ISO14001 hefyd yn dangos ymrwymiad ACT i fod yn fusnes cynaliadwy sy’n hyrwyddo’r amgylchedd. Mae ardystiad swyddogol yn rhoi hyder i grwpiau eraill pan fyddant yn gweithio gydag ACT, eu bod yn gweithio gyda busnes amgylcheddol cyfrifol y gallent ymddiried ynddo.”
Os hoffech gymryd y camau cyntaf tuag at fusnes mwy cynaliadwy, gallwch ddod o hyd i gymhwyster sy’n berthnasol i chi a’ch tîm yma.