Mae darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru, ACT, wedi dathlu carreg filltir yn ei fenter Addewid Cyflogwyr, gyda 104 o fusnesau bellach wedi cofrestru i helpu pobl ifanc gael mynediad at gyfleoedd yn y gweithle.
Wedi’i sefydlu yn hydref 2025, mae’r Addewid Cyflogwyr yn galw ar fusnesau ledled De Cymru i gynnig profiad gwaith, lleoliadau neu brentisiaethau i ddysgwyr ifanc yn eu sefydliadau. Ers ei lansio, mae cannoedd o ddysgwyr wedi elwa o’r cyfleoedd a grëwyd drwy’r fenter.
I nodi’r garreg filltir, cynhaliodd ACT, sy’n rhan o Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, ddigwyddiad arbennig yng Ngwesty Parkgate, gan ddod â busnesau sydd eisoes wedi llofnodi’r addewid ynghyd a busnesau sydd am ddysgu mwy amdano.
Dechreuodd y digwyddiad dros ginio gyda chyflwyniadau gan Reolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear, a’r Pennaeth Ymgysylltu a Hyfforddiant Ieuenctid Leon Patnett, a drafododd yr heriau sy’n wynebu pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru, yn enwedig y rhai mewn cymunedau mwy difreintiedig lle gall fod yn anodd dod o hyd i gyfleoedd.
Sefydlwyd yr addewid i helpu i fynd i’r afael â’r prinder cyfleoedd hwn ac atgyfnerthu’r pontio rhwng addysg a’r gweithle.
Mae darpariaeth Twf Swyddi Cymru+ ACT yn cefnogi pobl ifanc 16 i 19 oed i ddatblygu eu sgiliau a symud ymlaen at gyflogaeth. Trwy’r Addewid Cyflogwyr, gall busnesau lleol chwarae rôl allweddol wrth helpu’r dysgwyr hyn i ennill profiad ymarferol a magu hyder.
Yn dilyn y cyflwyniadau, cadeiriodd Geraint Hardy banel o dri sefydliad sydd wedi llofnodi’r addewid. Y cynrychiolwyr oedd Matt Davies o Alan Griffiths Construction, Paul Gwilym o Boomerang ac Emily Meredith o Acorn by Synergie. Rhannodd pawb eu profiadau o gefnogi pobl ifanc a’r manteision y mae eu sefydliadau wedi’u gweld.
Tynnodd y drafodaeth sylw at sut y gall lleoliadau gwaith ddatblygu i gyfleoedd tymor hwy pan fydd cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn gweithio gyda’i gilydd.
Rhannodd Emily Meredith stori am ddysgwr a ymunodd ag Acorn by Synergie i ddechrau lleoliad tri mis Twf Swyddi Cymru+, gan weithio ar brosiectau deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio. Er nad oedd cyfle parhaol ar gael pan ddaeth ei leoliad i ben, cysylltodd y busnes yn ôl ag ACT pan gododd swydd wag addas ddau fis yn ddiweddarach.
Ers hynny, mae’r dysgwr wedi dechrau prentisiaeth, lle mae’n parhau i ddatblygu ei sgiliau technegol.
“Mae’n berson hollol wahanol nawr i’r dyn ifanc a gerddodd trwy’r drws ar ei ddiwrnod cyntaf,” meddai Emily.
Esboniodd fod y profiad wedi bod o fudd i’r busnes yn ogystal â’r dysgwr, gan roi cyfleoedd i reolwyr ddatblygu eu sgiliau tra’n helpu’r tîm i gyflawni prosiectau’n gyflymach.
Rhannodd Matt Davies stori debyg am ddysgwr a gwblhaodd leoliad tri mis gydag Alan Griffiths Construction cyn symud ymlaen i brentisiaeth gwaith sylfaen Lefel 3 ym mis Medi.
Gweithiodd y cwmni adeiladu a pheirianneg yn agos gydag ACT i gyflwyno dysgwyr i’r diwydiant, yn ogystal â threfnu ymweliadau safle a’u helpu i ddeall y cymwysterau a’r gofynion sydd eu hangen i weithio yn y sector.
Dywedodd Matt am y profiad lleoliad gwaith:
“Os ydych chi’n dewis y person iawn ac yn llunio cynllun, yna byddwch chi’n elwa o’r buddion yn union fel y gwnaethom ni.”
Tynnodd sylw hefyd at bwysigrwydd adnabod nad oes gan bob person ifanc yr un man cychwyn neu fynediad at gymorth a bod darparu cyfle i rywun nad oedd efallai wedi cael llawer o gyfleoedd yn y gorffennol yn hynod werthfawr.
I Paul Gwilym, y mae ei sefydliad Boomerang yn cynnig cymorth ymarferol i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan dlodi a digartrefedd, mae’r addewid wedi helpu dau berson ifanc i ddatblygu eu hyder a’u sgiliau yn y gweithle.
Esboniodd Paul fod eu haddewid yn golygu y gallent “roi cyfle i bobl ac agor drws.”
Ochr yn ochr â’r effaith bersonol ar ddysgwyr, tynnodd y panel sylw hefyd at y manteision y mae eu busnesau wedi’u profi, o ddatblygu talent y dyfodol i gryfhau eu hymrwymiadau gwerth cymdeithasol.
Pan ofynnwyd iddynt a fyddent yn ei wneud eto, atebodd y tri phanelydd yn gadarnhaol, gan bwysleisio y dylai unrhyw un yn yr ystafell, oedd yn ystyried llofnodi’r addewid, ‘fynd amdani’.
Wrth i ACT ddathlu dros 100 o fusnesau yn ymuno a’r fenter, mae’n gobeithio adeiladu ar fomentwm a phrofiadau cadarnhaol y rhai sydd eisoes wedi cofrestru i annog mwy o sefydliadau ledled De Cymru i gymryd y naid.
Dywedodd Richard Spear o ACT: “Roedd yn ysbrydoledig clywed mwy gan y sefydliadau sydd wedi llofnodi’r Addewid Cyflogwyr ac sy’n parhau i elwa o weithio gyda’n dysgwyr.
“Mae’r cyflogwyr hyn yn cynnig cyfleoedd sy’n newid bywyd i bobl ifanc, ac mae’n fraint gweithio gyda nhw. Fel darparwr hyfforddiant, gallwn ni ddim mynd i’r afael â’r argyfwng NEET ar ein pen ein hunain. Bydd cydweithredu â busnesau yn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o weithwyr yn derbyn y gefnogaeth, y profiadau a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen – ac mae hynny’n allweddol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn.”