/ Newyddion

Yn ddiweddar, enillodd cynghorydd hyfforddiant statws Brocer Yswiriant Siartredig ar ôl deng mlynedd o hyfforddiant yn y sector.

Dechreuodd Emma Griffin ei gyrfa ym maes yswiriant yn 2016 pan oedd hi’n chwilio am her newydd a chyfle i adeiladu ei gwybodaeth dechnegol. Trwy gydol ei thaith, a’i gwelodd yn teithio i San Steffan fel graddedig diweddar y cymhwyster yr wythnos ddiwethaf, mae wedi symud o fod yn ddysgwr i gynghorydd. Mae’r profiad hwn o ddysgu wrth ei gwaith yn parhau i fod yn ganolog i’r ffordd y mae’n cefnogi dysgwyr heddiw.

Ar ôl blynyddoedd lawer yn gweithio mewn rolau rheoli ar draws lletygarwch a manwerthu, dechreuodd Emma yrfa newydd fel brocer yswiriant ym mis Ebrill 2016.

“Bryd hynny roeddwn i’n gyffrous am yr her newydd, gan amsugno pob darn o wybodaeth a rannodd fy hyfforddwyr a gofyn llawer gormod o gwestiynau er mwyn datblygu fy nealltwriaeth fy hun,” esboniodd Emma. “Cefais gynnig y cyfle i ymgymryd â hyfforddiant technegol a chymhwyster, ac rwy’n credu taw cael fy meithrin fel hyn ar y dechrau oedd y rheswm y gwnes i wirioni ar yswiriant.”

Ar ôl ymuno â’r diwydiant yn ddiweddarach yn ei gyrfa, roedd Emma am ennill cymhwyster cydnabyddedig a fyddai’n dangos ei gwybodaeth dechnegol a rhoi hyder i gleientiaid yn y cyngor yr oedd yn darparu.

“Roedd gweithio ac astudio ar yr un pryd yn addas iawn i fi oherwydd gallwn ddysgu rhywbeth trwy fy nghymwysterau ac yna gweld sut roedd yn berthnasol yn ymarferol,” meddai. “Yn yr un modd, roedd sefyllfaoedd oedd yn codi yn y gwaith yn rhoi cyd-destun i’r hyn roeddwn i’n ei astudio. Datblygais ddealltwriaeth dechnegol llawer ehangach a dod yn fwy hyderus yn fy marn a’m penderfyniadau fy hun.”

Helpodd y cyfuniad hwn o theori a phrofiad ymarferol i Emma symud ymlaen i rôl Trefnydd Cyfrifon Corfforaethol wrth iddi barhau â’i datblygiad proffesiynol trwy gymwysterau cynyddol uwch.

“Mae’r daith o fy arholiad cyntaf mewn Yswiriant, Cyfraith a Rheoleiddio hyd at gwblhau fy arholiad olaf ar Noswyl Nadolig yn gyflawniad aruthrol,” meddai Emma.

Roedd ei hastudiaethau’n cwmpasu cyfraith yswiriant, uwch hawliadau, tanysgrifio, brocio yswiriant, marchnata cynhyrchion a gwasanaethau yswiriant, a rheoli risg. Ochr yn ochr â’i harholiadau, cwblhaodd Emma aseiniadau gyda chyfanswm o dros 50,000 o eiriau.

Ymunodd Emma ag ALS, sydd bellach yn rhan o ACT, ar ôl gweithio fel rheolwr llinell mewn busnes gwasanaethau yswiriant, lle’r oedd eisoes wedi bod yn cefnogi dysgwyr. Rhoddodd symud i hyfforddiant a datblygu cyfle iddi ddod â’i phrofiad â’i brwdfrydedd dros helpu eraill i lwyddo ynghyd.

“Rwy’n hoffi sut mae pethau wedi dod yn gylch llawn yn y degawd diwethaf a gallaf nawr roi yn ôl. Rwy’n hoffi cefnogi pobl eraill i gyflawni eu huchelgais gyrfa ac adeiladu ar eu sgiliau presennol,” meddai.

Roedd pontio o ddysgwr i Ymgynghorydd Hyfforddi yn golygu datblygu sgiliau newydd, gan gynnwys cyflawni ei chymhwyster TAQA ar gyfer elfen asesu ei rôl wrth gwblhau modiwlau terfynol ei diploma uwch.

“Roedd symud o fod yn ddysgwr i gefnogi dysgwyr yn teimlo fel dilyniant naturiol. Roeddwn bellach yn gallu rhoi fy ngwybodaeth dechnegol mewn cyflwyniadau gweithdai a fy mhrofiad uniongyrchol i asesu meini prawf galwedigaethol.”

Ac ar ôl profi dysgu seiliedig ar waith yn uniongyrchol, mae Emma yn deall y pwysau y gall dysgwyr eu hwynebu wrth gydbwyso eu hastudiaethau â bywydau gwaith prysur.

“Rydw i wedi bod yn rheolwr llinell mewn gwahanol sectorau ac wedi gweld bod gen i well dealltwriaeth o’r hyn rydw i’n gofyn gan eraill os ydw i hefyd wedi bod i lawr yr un llwybr.

“Ar ôl profi dysgu seiliedig ar waith fy hun, gallaf adnabod pan fydd amseroedd yn anodd, adnoddau’n dynn, llwyth gwaith yn drwm a gallaf arwain y dysgwyr at y buddugoliaethau bychain a’u hargyhoeddi y byddant yn llwyddo.”

Yn gynharach y mis hwn, daeth gwaith caled Emma i ben mewn seremoni raddio yn San Steffan, yn dathlu ei chyflawniad o ennill statws Brocer Yswiriant Siartredig.

“Roedd yn garreg filltir bersonol a phroffesiynol enfawr,” esboniodd. “Rhoddodd gyfle i fi fyfyrio ar ba mor bell rydw i wedi dod.”

Pan ofynnwyd iddi a oedd ganddi unrhyw gyngor i unrhyw un sy’n ystyried cymhwyster seiliedig ar waith, dywedodd Emma: “Byddwn i’n dweud ewch amdani. Mae cymhwyster seiliedig ar waith yn brofiad gwerth chweil; mae’n dyst nad yw dysgu yn digwydd mewn ystafell ddosbarth neu lyfrau yn unig. Mae’r theori yn wych ar gyfer gwybodaeth dechnegol, a’i rhoi ar waith sy’n caniatáu i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth a hyder.”

Rhannwch