Roedd yn hyfryd cwrdd â chi yn Eisteddfod Genedlaethol eleni!
Cymerwch olwg isod i ddysgu ychydig mwy am yr hyn rydym yn ei wneud a sut y gallwn eich helpu.
Yn ACT, rydym i gyd yn hynod angerddol dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu rhaglenni dysgu a chyfleoedd rhagorol – ac mae pob un o’r 372 ohonom yn dod i’r gwaith bob dydd i wneud hynny’n union.
Rydym yn darparu rhestr hir o raglenni hyfforddi a chymwysterau sy’n helpu pobl go iawn i gyrraedd eu llawn botensial. O Jobs Growth Wales+, Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch ar draws 30 o sectorau gwahanol, i hyfforddiant cyflogadwyedd a chyrsiau masnachol byr, mae gennym rywbeth i bawb ac, dyma’r rhan dda, mae’r rhan fwyaf o’n hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn.
Mae Jobs Growth Wales+ (JGW+) yn rhaglen hyfforddi a datblygu wych i bobl ifanc 16–19 oed sydd angen y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad i symud ymlaen i Brentisiaeth, sefydlu eu busnes eu hunain neu gael eu swydd ddelfrydol.
Byddwch yn cael hyfforddiant cyflogadwyedd a’r holl gymorth sydd ei angen arnoch i symud yn gyflym ymlaen i gam nesaf eich bywyd – a hynny i gyd tra’n cael eich talu!
Dysgwch fwy yma.
Os ydych am ddechrau ar eich gyrfa neu roi hwb i’ch gyrfa bresennol, mae Prentisiaeth yn lle gwych i ddechrau.
Mae Prentisiaeth yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith sy’n eich helpu i ddatblygu sgiliau proffesiynol ac ennill cymhwyster Lefel 2–5 a gydnabyddir yn genedlaethol, wrth ennill cyflog – gan ei gwneud yn ddewis gyrfa rhagorol.
Dysgwch fwy yma.
Os ydych chi’n dymuno dod yn Brentis, rydych chi wedi dod i’r lle iawn!
Yn ACT, rydym wedi ymrwymo i gynnig y cyfleoedd Prentisiaeth gorau i chi. Rydym yn cynnig ystod eang iawn o Brentisiaethau a Lleoliadau Gwaith o ansawdd uchel gyda chyflogwyr blaenllaw sy’n awyddus i gwrdd ag ymgeiswyr ifanc ac angerddol fel chi.
Dysgwch fwy yma.
Os ydych chi’n dymuno bywiogi eich gweithlu neu ddod â phersbectif cwbl newydd i’ch tîm, gall prentisiaethau ddarparu set newydd o sgiliau i weithwyr ac, yn ei dro, roi hwb i’ch gweithrediadau.
Mae prentisiaethau’n opsiwn gwych os ydych am uwchsgilio eich gweithwyr presennol, meithrin talent newydd yn eich diwydiant neu sicrhau bod gweithwyr penodol yn llwyddo yn eu harbenigedd.
Dysgwch fwy yma.
Os ydych chi’n dymuno gwella eich mathemateg, efallai y gallwch elwa o gwrs Multiply wedi’i ariannu’n llawn gydag ACT. Gallwch feithrin hyder gyda rhifau mewn cyd-destun personol neu broffesiynol. Gallwch hefyd ennill cymhwyster ffurfiol. Mae digon o opsiynau ar gael i unrhyw un heb TGAU Mathemateg gradd C neu uwch, neu gymhwyster cyfatebol.
Rydym yn darparu ystod o atebion hyfforddi a datblygu sy’n helpu i gefnogi ac uwchsgilio aelodau presennol eich tîm, ac i ddenu talent newydd i’ch busnes yn unol ag anghenion datblygu eich busnes.
Dysgwch fwy yma.
Rydym yn grymuso miloedd o bobl, yn ifanc ac yn hŷn, i wella eu bywydau drwy ddatblygu’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen yn eu gyrfa ddewisol a’u bywyd proffesiynol.
Dysgwch fwy yma.
Os ydych yn chwilio am swydd gychwynnol gyffrous mewn cwmni ag enw da a fydd yn eich helpu i ddysgu ac ennill cyflog ar yr un pryd, edrychwch ar ein swyddi gwag diweddaraf sydd wedi’u hanelu at recriwtiaid ifanc.
Dysgwch fwy yma.


