Ar ôl cael diagnosis o gyflwr llygaid dirywiol yn fuan ar ôl dod yn un o’r prentisiaid cyntaf erioed i ymuno â Chyngor Dinas Casnewydd, mae Carley Dowding yn gwybod yn well na’r rhan fwyaf pa mor fawr y gall Prentisiaethau newid bywyd rhywun er gwell.
“Cyn fy Mhrentisiaeth, roeddwn yn gweithio mewn siop goffi, ac roeddwn yn gwybod nad dyna oeddwn am ei wneud yn y tymor hir,” eglura Carley. “Roeddwn wedi gweithio ym maes lletygarwch a manwerthu ers pan oeddwn yn fy arddegau cynnar, ond roeddwn yn ei chael yn anodd iawn symud i ffwrdd o hyn gan nad oedd gennyf brofiad perthnasol.”
Yn 21 oed, dechreuodd Carley chwilio am Brentisiaethau yn ei thref enedigol, Casnewydd, gan wneud cais am gymhwyster Gweinyddu Busnes Lefel 2 am flwyddyn a dod yn un o brentisiaid cyntaf erioed y Cyngor Dinas yn y broses.
“Roedd bod yn un o’r prentisiaid gwreiddiol yn gyfnod cyffrous iawn; roedd yn brofiad newydd i’r prentisiaid, y timau y cawsom ein lleoli ynddynt, a Chyngor Dinas Casnewydd yn ei gyfanrwydd,” meddai Carley. “Roedd faint o ymdrech ac amser a roddwyd i’n hyfforddi ac i sicrhau bod gennym bopeth oedd ei angen arnom i barhau ar ein llwybrau gyrfa yn anhygoel.”
“Mae hefyd wedi bod yn daith ryfedd i mi, fodd bynnag, gan fy mod, ers fy Mhrentisiaeth, wedi cael diagnosis o gyflwr dirywiol sy’n effeithio ar fy ngolwg. Oherwydd hyn, rwyf bellach wedi fy nghofrestru’n ddall, felly rwy’n ffodus iawn fy mod wedi cael cymorth parhaus gan gydweithwyr, rheolwyr ac Adnoddau Dynol i weithio o amgylch hyn a dod o hyd i ffyrdd o weithio sy’n addas i mi hefyd.”
Wedi’i lleoli yn yr adran Addysg, roedd Prentisiaeth Carley yn cynnwys cefnogi’r tîm Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar drwy reoli calendrau, trefnu a mynychu cyfarfodydd, cwblhau ffeilio digidol a bod yn bwynt cyswllt i bartneriaid a lleoliadau meithrin. Cafodd hefyd gyfle i ymweld â lleoliadau blynyddoedd cynnar a mynychu cyfarfodydd panel, gan roi dealltwriaeth uniongyrchol iddi o nodau ac amcanion y tîm hefyd.
Roedd hynny bum mlynedd yn ôl, ac mae Carley wedi bod yn gyflogedig gan Gyngor Dinas Casnewydd ers hynny, gan weithio fel Swyddog Gwasanaethau Cwsmeriaid, Swyddog Cymorth Ysgolion, Gweinyddwr gyda’r Uned Amddiffyn Plant, ac ar hyn o bryd fel Swyddog Cymorth Busnes gyda’r tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).
Mae’r Brentisiaeth wedi agor cymaint o ddrysau i mi ac wedi fy rhoi ar lwybr gyrfa rwy’n ei fwynhau’n fawr.
“Fy nodau ar gyfer y dyfodol nawr yw parhau â’m taith gyrfa o fewn Cyngor Dinas Casnewydd, ble bynnag y gall hynny fynd â mi, a pharhau i addasu i fywyd gwaith gyda’m cyflwr,” meddai Carley.
“Byddwn yn bendant yn argymell Prentisiaeth, a fy nghyngor i bobl ifanc sy’n ystyried y llwybr hwn yw ei fod yn wirioneddol amhrisiadwy. I mi, roedd yn gydbwysedd perffaith rhwng profiad seiliedig ar waith a dysgu drwy Brentisiaeth.”
Os ydych am gael gwybod mwy am gyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch yma.