Ynglŷn â’r cwrs hwn
Mae Prentisiaeth Lefel 2 mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Yswiriant) wedi’i datblygu ar y cyd â chyflogwyr yng Nghymru i ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen i ddechrau gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant yswiriant. Mae’n meithrin dealltwriaeth o fframweithiau rheoleiddiol a gofynion cydymffurfio’r diwydiant, ochr yn ochr â’r sgiliau ymarferol a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid sydd eu hangen i weithio’n effeithiol yn y sector yswiriant.
Ar gyfer pwy mae’r brentisiaeth?
- Yn ddelfrydol ar gyfer prentisiaid sy’n dechrau eu gyrfa yn y diwydiant yswiriant.
- Yn berffaith ar gyfer gweithwyr presennol sydd am wella eu cymhwysedd wrth ddarparu gwasanaethau ariannol.
- Cymhwyster achrededig i weithwyr proffesiynol ym maes yswiriant ddilysu eu cymhwysedd a’u gwybodaeth am y diwydiant gwasanaethau ariannol.
Cyflymu Twf Gyrfa: Bydd ymgymryd â’r brentisiaeth Lefel 2 yn cyflymu datblygiad gyrfa drwy ddarparu profiad ymarferol amhrisiadwy ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd prentisiaid yn cael yr offer i ffynnu ac adeiladu gyrfa werth chweil yn y diwydiant yswiriant.
Ardystiad a Gydnabyddir gan y Diwydiant: Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd prentisiaid yn ennill ardystiad mawr ei barch a gydnabyddir gan y diwydiant, gan roi mantais gystadleuol iddynt yn y farchnad swyddi. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r arbenigedd a enillir drwy’r brentisiaeth hon, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous.
Dysgu Ymarferol ac yn y Byd Go Iawn: Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol ac yn y byd go iawn. Bydd prentisiaid yn dysgu ac yn defnyddio eu sgiliau yn y gweithle, gan gydweithio â chydweithwyr profiadol a fydd yn arwain y prentis drwy bob cam o’r broses. Cewch fewnwelediadau, datblygu galluoedd datrys problemau, a gwella sgiliau gwneud penderfyniadau.
Cwricwlwm wedi’i Deilwra: Mae ein cwricwlwm cynhwysfawr wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion y diwydiant yswiriant sy’n esblygu’n barhaus. Bydd prentisiaid yn ymdrin â phynciau hanfodol fel trefniadau rheoleiddiol, rheoli risg, tanysgrifio, rheoli hawliadau a rheoli perthnasoedd â chwsmeriaid.
Cynghorwyr Profiadol a Gwybodus: Drwy gydol y brentisiaeth, byddwn yn darparu mynediad at rwydwaith o gynghorwyr profiadol a chymwys a fydd yn cynnig arweiniad, cefnogaeth ac adborth.
Mae’r brentisiaeth hon yn cynnwys cyfuniad o unedau gorfodol ac unedau dewisol. Byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa fodiwlau dewisol sydd fwyaf addas i chi ac i’ch rôl swydd.
Mae’r unedau’n cynnwys:
- Cydymffurfio â rheoliadau o fewn yr amgylchedd gwasanaethau ariannol.
- Gwella a chynnal cymhwysedd yn y gweithle mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.
- Cynllunio a threfnu gwaith mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.
- Delio â cheisiadau i ganslo cynhyrchion neu wasanaethau ariannol.
- Delio â hawliadau syml ar gyfer colledion yswiriedig.
- Prosesu hawliadau syml ar gyfer colledion heb yswiriant.
- Prosesu busnes yswiriant syml fel cyfryngwr.
- Prosesu dogfennaeth polisïau yswiriant syml.
- Prosesu adnewyddiadau yswiriant syml.
A llawer mwy…
- Hyd nodweddiadol o 15-18 mis.
- Sesiwn sefydlu ar gyfer prentisiaid a’u rheolwyr llinell.
- Sesiynau hyfforddi tiwtor ac cymorth asesu un-i-un.
- 4 diwrnod asesu sgiliau hanfodol (2 ddiwrnod paratoi a 2 ddiwrnod tasg fyw).
- Profion cadarnhau sgiliau hanfodol sy’n para dwy awr.
Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Yswiriant Cyffredinol)
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Sgiliau Hanfodol Lefel 1: Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol Lefel 1: Cymhwyso Rhifau
Efallai na fydd y sgiliau hanfodol yn berthnasol os gall prentisiaid ddangos eu bod wedi’u heithrio
Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs
Lawrlwytho PDFDiddordeb mewn cofrestru?