Ynglŷn â’r cwrs hwn
Mae Prentisiaeth Lefel 2 mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Bancio Manwerthu) wedi’i datblygu ar y cyd â chyflogwyr yng Nghymru i ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen i ddechrau gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant bancio manwerthu. Mae’n meithrin dealltwriaeth o fframweithiau rheoleiddiol a gofynion cydymffurfio’r diwydiant, ochr yn ochr â’r sgiliau ymarferol a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid sydd eu hangen i weithio’n effeithiol yn y sector bancio manwerthu.
I bwy mae’r brentisiaeth?
- Yn ddelfrydol ar gyfer prentisiaid sy’n dechrau eu gyrfa yn y diwydiant bancio manwerthu.
- Yn berffaith ar gyfer gweithwyr presennol sydd am wella eu cymhwysedd wrth ddarparu gwasanaethau ariannol.
- Cymhwyster achrededig i weithwyr proffesiynol ym maes yswiriant i ddilysu eu cymhwysedd a’u gwybodaeth am y diwydiant bancio manwerthu.
Cyflymu Twf Eich Gyrfa: Mae prentisiaid yn ennill sgiliau a gwybodaeth werthfawr sy’n benodol i’r diwydiant bancio manwerthu, gan wella eu harbenigedd mewn gwasanaeth cwsmeriaid, cynhyrchion ariannol a rheoliadau’r diwydiant. Trwy brofiad ymarferol a dysgu strwythuredig, bydd prentisiaid yn datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol, gan gaffael sgiliau trosglwyddadwy sy’n fuddiol iddynt drwy gydol eu gyrfa. Mae cwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus yn agor drysau i amrywiol gyfleoedd gyrfa o fewn y sector Bancio Manwerthu, gan gynnwys rolau fel Uwch Gynrychiolydd Gwasanaeth Cwsmeriaid neu Oruchwyliwr Arian Parod.
Dysgu Ymarferol a Byd Go Iawn: Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol, byd go iawn. Bydd prentisiaid yn ymarfer sgiliau yn y gweithle gan gydweithio â chydweithwyr profiadol a’u cefnogi gan weithwyr proffesiynol ALS a fydd yn tywys y prentis trwy bob cam o’r broses.
Cwricwlwm wedi’i Deilwra: Mae ein cwricwlwm cynhwysfawr wedi’i gynllunio i ddiwallu gofynion y diwydiant yswiriant sy’n esblygu’n barhaus. Mae ganddo ddull hyblyg ac mae’n caniatáu i brentisiaid a’u cyflogwyr ddewis unedau dewisol ac ychwanegol sy’n bodloni gofynion eu rôl swydd. Byddwch yn ymdrin â phynciau hanfodol fel cydymffurfio â rheoliadau, cynllunio a threfnu gwaith a rheoli perthynas â chwsmeriaid.
Cynghorwyr Profiadol a Gwybodus: Drwy gydol y prentisiaeth, byddwn yn darparu mynediad at rwydwaith o gynghorwyr profiadol a chymwys a fydd yn cynnig arweiniad, cefnogaeth ac adborth.
Mae’r brentisiaeth hon yn cynnwys cyfuniad o unedau gorfodol ac unedau dewisol. Byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa fodiwlau dewisol sydd fwyaf addas i chi ac i’ch rôl swydd.
Mae’r unedau’n cynnwys:
- Cydymffurfio â rheoliadau o fewn yr amgylchedd gwasanaethau ariannol.
- Gwella a chynnal cymhwysedd yn y gweithle mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.
- Cynllunio a threfnu gwaith mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.
- Agor cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu ar gyfer cwsmeriaid.
- Awdurdodi trafodion ariannol gan ddefnyddio telathrebu.
- Gweithredu til sterling.
- Gweithredu til aml-arian cyfred.
- Prosesu dogfennaeth ar gyfer cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu.
- Meithrin perthnasoedd effeithiol â chleientiaid mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.
- Darparu gwybodaeth i gwsmeriaid mewn amgylchedd gwasanaethau ariannol.
A llawer mwy…
- Hyd nodweddiadol o 18 mis.
- Sesiwn gynefino ar gyfer prentisiaid a’u rheolwyr llinell.
- Sesiynau hyfforddi tiwtor un-i-un a chymorth asesu.
- 4 diwrnod asesu sgiliau hanfodol (2 ddiwrnod paratoi a 2 ddiwrnod tasg fyw).
- Profion cadarnhau sgiliau hanfodol sy’n para dwy awr.
Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Bancio Manwerthu)
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Sgiliau Hanfodol Lefel 1: Cyfathrebu
- Sgiliau Hanfodol Lefel 1: Cymhwyso Rhifau
Efallai na fydd y sgiliau hanfodol yn berthnasol os gall prentisiaid ddangos eu bod wedi’u heithrio
Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs
Lawrlwytho PDFDiddordeb mewn cofrestru?