Ynglŷn â’r cwrs hwn
Mae prentisiaeth Peiriannydd Seilwaith Digidol Lefel 3 wedi’i llunio’n benodol ar y cyd â chyflogwyr yng Nghymru i roi’r sgiliau seilwaith digidol sylfaenol i weithwyr; sgiliau sydd eu hangen arnynt i gynllunio, adeiladu a chynnal y rhwydweithiau digidol y mae’r economi’n dibynnu arnynt. Nod y rhaglen brentisiaeth hon yw darparu llwybr galwedigaethol cadarn i ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu fel peiriannydd seilwaith digidol.
I bwy mae’r brentisiaeth?
- Yn ddelfrydol ar gyfer arbenigwyr TG sy’n datblygu ac yn chwilio am yrfa gyflym ym maes seilwaith TG.
- Yn berffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am uwchsgilio ar gyfer rolau ym maes peirianneg seilwaith TG.
- Cymhwyster achrededig i beirianwyr seilwaith presennol ddilysu eu profiad.
Cyflymu Twf eich Gyrfa: Bydd ymgymryd â Phrentisiaeth Peiriannydd Seilwaith Digidol Lefel 3 yn gwella gyrfa’r prentis drwy ennill profiad ymarferol amhrisiadwy ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd prentisiaid yn datblygu’r offer a’r wybodaeth angenrheidiol i gyflawni eu rôl fel peiriannydd digidol a gwneud gwahaniaeth yn y sefydliad.
Ardystiad a Gydnabyddir gan y Diwydiant: Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd prentisiaid yn ennill ardystiad a gydnabyddir gan y diwydiant, gan roi mantais gystadleuol iddynt yn y farchnad swyddi. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r arbenigedd a enillir drwy’r brentisiaeth hon, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous.
Dysgu Ymarferol ac yn y Byd Go Iawn: Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol sy’n berthnasol i’r byd go iawn. Bydd prentisiaid yn ymarfer sgiliau yn y gweithle, gan gydweithio â chydweithwyr profiadol a chael cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol ALS a fydd yn eu harwain drwy bob cam o’r broses.
Cwricwlwm wedi’i Deilwra: Mae ein cwricwlwm cynhwysfawr wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion yr economi ddigidol a’r seilwaith y mae’n dibynnu arno. Bydd prentisiaid yn ymdrin â phynciau hanfodol fel proffesiynoldeb, egwyddorion rhwydweithiau, gosod a chynnal caledwedd ac offer TG, cefnogi amgylcheddau rhwydwaith digidol, a llywodraethu ac sicrhau systemau a phrosesau gwybodaeth.
Cynghorwyr Profiadol a Gwybodus: Drwy gydol y brentisiaeth, byddwn yn darparu mynediad at rwydwaith o gynghorwyr profiadol a fydd yn cynnig arweiniad, hyfforddiant, cefnogaeth ac adborth.
Mae’r brentisiaeth hon yn cynnwys cyfuniad o unedau gorfodol ac unedau dewisol. Byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa fodiwlau dewisol sydd fwyaf addas i chi ac i’ch rôl swydd.
Mae’r unedau’n cynnwys:
- Egwyddorion Rhwydweithio
- Amgylcheddau Rhwydwaith Digidol
- Egwyddorion Llywodraethu a Sicrwydd Gwybodaeth
- Gweithio gyda Caledwedd ac Offer TG
A llawer mwy…
- Hyd nodweddiadol o 21 mis.
- Sesiwn sefydlu ar gyfer prentisiaid a’u rheolwyr llinell.
- Sesiynau hyfforddiant tiwtor un-i-un a chymorth asesu.
- Cefnogaeth drwy adnoddau hunan-astudio ar-lein.
- 4 diwrnod asesu sgiliau hanfodol. (2 ddiwrnod paratoi a 2 ddiwrnod tasg fyw)
- Profion cadarnhau sgiliau hanfodol sy’n para 2 awr.
Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.
- Diploma Lefel 3 Agored Cymru mewn Peiriannydd Seilwaith Digidol
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cyfathrebu
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau
Efallai na fydd angen y cymwysterau Sgiliau Hanfodol os gall prentisiaid ddangos eu bod wedi’u heithrio
Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs
Download PDFOes gennych chi ddiddordeb mewn cofrestru?