Mae ACT bellach wedi uno â’i chwaer sefydliad, ALS, i ddod yn un sefydliad o dan frand ACT.



                                Bydd gwybodaeth ALS Aerofod yn parhau i fod ar gael ar wefan ALS.
                            

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu yn y gweithle

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

Wedi'i ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Mae Prentisiaeth Datblygwr Meddalwedd Lefel 3 wedi’i chynllunio ar y cyd â chyflogwyr yng Nghymru i ddatblygu sgiliau datblygu meddalwedd sylfaenol gweithwyr. Nod y rhaglen yw galluogi unigolion i ymgysylltu â rhanddeiliaid, pennu a dylunio datrysiadau meddalwedd, datblygu a gwella meddalwedd, profi a dogfennu meddalwedd, a chefnogi defnyddwyr. Mae’r rhaglen brentisiaeth hon wedi’i chynllunio i ddarparu llwybr galwedigaethol cadarn ar gyfer datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gychwyn gyrfa fel datblygwr meddalwedd.

I bwy mae’r brentisiaeth?

  • Yn ddelfrydol ar gyfer prentisiaid sy’n chwilio am yrfa gyflym ym maes datblygu meddalwedd.
  • Yn berffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am wella eu sgiliau ar gyfer rolau datblygu meddalwedd.
  • Cymhwyster achrededig i ddatblygwyr meddalwedd presennol ddilysu eu harbenigedd.

 

Cyflymu Twf eich Gyrfa: Bydd ymgymryd â’r Brentisiaeth Datblygwr Meddalwedd Lefel 3 yn cyflymu datblygiad gyrfa drwy ddarparu profiad ymarferol amhrisiadwy ochr yn ochr â gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd prentisiaid yn cael yr offer i ddechrau gyrfa fel datblygwr ‘front-end’ neu ‘back-end’ a gwneud gwahaniaeth yn y sefydliad.

Ardystiad a Gydnabyddir gan y Diwydiant: Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd prentisiaid yn ennill ardystiad mawr ei barch a gydnabyddir gan y diwydiant, gan roi mantais gystadleuol iddynt yn y farchnad swyddi. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r arbenigedd a enillir drwy’r brentisiaeth hon, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous.

Dysgu Ymarferol ac yn y Byd Go Iawn: Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu ymarferol sy’n berthnasol i’r byd go iawn. Bydd prentisiaid yn ymarfer sgiliau mewn amgylchedd dosbarth ac yn gallu eu cymhwyso yn y gweithle, gan gydweithio â chydweithwyr profiadol a fydd yn arwain y prentis drwy bob cam o’r broses.

Cwricwlwm wedi’i Deilwra: Mae ein cwricwlwm cynhwysfawr wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion y sector datblygu meddalwedd. Bydd y prentis yn ymdrin â phynciau hanfodol fel diogelwch systemau wrth eu dylunio, dylunio meddalwedd, codio ar gyfer datblygu meddalwedd, profi a dogfennu meddalwedd, datblygu parhaus, a phroffesiynoldeb.

Cynghorwyr Profiadol a Gwybodus: Drwy gydol y brentisiaeth, byddwn yn darparu mynediad at rwydwaith o gynghorwyr profiadol a fydd yn cynnig arweiniad, cefnogaeth ac adborth. Mae prentisiaid yn dysgu gan arbenigwyr diwydiant sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad ar draws y sector digidol.

Mae’r brentisiaeth hon yn cynnwys cyfuniad o unedau gorfodol ac unedau dewisol. Byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa fodiwlau dewisol sydd fwyaf addas i chi ac i’ch rôl swydd.

Mae’r unedau’n cynnwys:

  • Egwyddorion Datblygu Systemau Diogel
  • Dylunio Meddalwedd
  • Gwella Meddalwedd Presennol
  • Profi Meddalwedd
  • Codio Cyfrifiadurol

A llawer mwy…

  • Hyd nodweddiadol o 21 mis.
  • Sesiwn sefydlu ar gyfer prentisiaid a’u rheolwyr llinell.
  • Sesiynau hyfforddi tiwtor ac cymorth asesu un-i-un.
  • Cefnogaeth gan adnoddau astudio annibynnol ar-lein.
  • 4 diwrnod asesu sgiliau hanfodol. (2 ddiwrnod paratoi a 2 ddiwrnod tasg fyw)
  • Profion cadarnhau sgiliau hanfodol dwy awr o hyd.

Nid yw gweithgareddau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol i brentisiaid sydd ag eithriadau.

  • Diploma Lefel 3 Agored Cymru mewn Datblygu Meddalwedd
  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cyfathrebu
  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhifau

Efallai na fydd y cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn berthnasol os gall prentisiaid ddangos eu bod wedi’u heithrio

Lawrlwytho amlinelliad llawn y cwrs

Lawrlwytho PDF

Diddordeb mewn cofrestru?

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut y gall ACT eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa.
Cysylltwch

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu yn y gweithle

Dyddiad cychwyn

Hyblyg

Cost

Wedi'i ariannu'n llawn
Darganfyddwch mwy