About the role
Mae’r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ry’n ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg. Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn sydd am ddatblygu ei sgiliau proffesiynol wrth weithio a hyfforddi gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd yr unigolyn yn cwblhau prentisiaeth 18 mis Lefel 3 mewn Marchnata Digidol, gan ennill profiad ymarferol a chymhwyster cydnabyddedig.
Ry’n ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol sydd yn awyddus i ddatblygu sgiliau a phrofiadau yn y diwydiant cyfathrebu, marchnata a chyfryngau cymdeithasol gan weithio mewn sefydliad blaenllaw sy’n gweithredu’n llwyr drwy’r Gymraeg.
Bydd disgwyl i bob elfen o’r gwaith – ar lafar ac yn ysgrifenedig – cael ei gwblhau yn y Gymraeg.
Location: Caerfyrddin neu Caerdydd gan gynnwys cynllun gweithio hybrid
Hours: Cytundeb cyfnod penodol o 18 mis am 4 diwrnod yr wythnos (28 awr)
Pay:Cyflog Byw Gwirioneddol, sef £13.45 yr awr (£19,583 y flwyddyn pro rata)
Apprenticeship: Marchnata Digidol Lefel 3
Key Duties:
- Cynorthwyo gyda chreu ymgyrchoedd cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo prosiectau a digwyddiadau’r Coleg.
- Cyfrannu at ddatblygu syniadau a chreu cynnwys digidol creadigol ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol y Coleg ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Cynorthwyo gyda threfnu digwyddiadau corfforaethol y Coleg.
- Cyfrannu at egwyddorion ac amcanion cyffredinol y Coleg
Essential criteria
- Yn gyfarwydd â defnyddio platfformau amrywiol cyfryngau cymdeithasol at bwrpas personol neu broffesiynol
- Y gallu i ddarllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn gywir ac yn hyderus
- Yn drefnus ac yn barod i weithio i derfynau amser tynn
- Yn dilyn cyfarwyddyd a chanllawiau a’r gallu i weithio yn annibynnol yn ôl yr angen
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig effeithiol
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Brwdfrydig, llawn cymhelliant ac awydd i ddysgu
- Y parodrwydd i deithio i wahanol leoliadau yng Nghymru ar gyfer rhai o ddigwyddiadau’r Coleg
- Bydd gofyn fod gennych gyswllt rhyngrwyd addas er mwyn gweithio o adref fel rhan o’r dull gweithio hybrid
Desirable criteria
- TGAU lefel A*-C mewn Cymraeg Iaith, Saesneg Iaith a Mathemateg neu cymhwyster cyfatebol cydnabyddedig
- Yn gyfarwydd â chreu cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol (fideos a postiadau graffeg) at bwrpas personol neu broffesiynol
- Ymwybyddiaeth o ddatblygiadau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys ‘trends’ poblogaidd
- Y gallu i gydweithio’n agos ac yn gydweithredol gydag aelodau’r tîm a chydweithwyr eraill.
- Sgiliau cyfrifiadurol da gan gynnwys pecyn Microsoft 365 a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol
- Profiad o ddefnyddio meddalwedd creu/golygu fideos megis Canva, Capcut, Inshot, neu raglenni tebyg.
- Gwybodaeth am waith amrywiol y Coleg Cymraeg.