Yn angerddol ac yn ymroddedig, mae Fatima “Faith” Bahwish, 18, eisiau gadael ei hôl ar y byd ac, yn dilyn ei chyfnod gydag ACT, prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, a gyrfa newydd mewn gosod brics gyda KEIR Construction, mae hi’n gwneud yn union hynny.
Gan symud o Bradford i Gaerdydd yn ystod y pandemig, roedd yn ymddangos bod Faith wedi mapio ei thaith academaidd o’i blaen, gan astudio Mathemateg a Gwyddoniaeth Safon Uwch yn ei choleg lleol. Fodd bynnag, sylweddolodd yn fuan nad oedd ei dewisiadau’n ei gwneud yn hapus, ac fe wnaeth cyfle annisgwyl gyda’i hewythr ym maes adeiladu ei rhoi ar lwybr newydd.
“Gadewais yr ysgol uwchradd gyda’m TGAU ac es i’r coleg dim ond oherwydd bod pawb arall yn mynd. Doeddwn i ddim yn mwynhau hynny, felly awgrymodd fy ewythr y dylwn weithio gydag ef tra roeddwn yn ceisio penderfynu beth i’w wneud nesaf. Mae’n weithiwr adeiladu aml-sgil sy’n berchen ar ei fusnes ei hun, felly bûm yn gweithio gydag ef am ychydig wythnosau yn ystod yr haf ac roeddwn wrth fy modd. Roeddwn yn mynd adref bob dydd yn teimlo fy mod wedi cyflawni rhywbeth ac roeddwn wir yn mwynhau’r boddhad swydd.”
Fel rhywun a oedd wedi ystyried dilyn gyrfa mewn celf o’r blaen ac sy’n caru bod yn yr awyr agored yn defnyddio ei dwylo, ymddiriedodd Faith yn ei hangerdd newydd am adeiladu ac roedd yn awyddus i’w ddilyn.
“Siaradais â chynrychiolydd dysgwyr am fy opsiynau gyrfa ac fe wnaethant awgrymu y byddai ACT a rhaglen Twf Swyddi Cymru+ (JGW+) yn addas iawn. Rwyf wedi mwynhau’r hyblygrwydd sydd ar gael yn ACT yn fawr ac rwyf wedi dysgu llawer. Mae JGW+ wedi dysgu sgiliau defnyddiol iawn i mi i’m galluogi i fod yn gyflogadwy a dod o hyd i swydd.”
Mae JGW+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16–18 oed sy’n eu helpu i ennill y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen i gael swydd neu fynd ymlaen i hyfforddiant pellach. Gan ddeall nad oes dau berson yr un fath, mae rhaglen JGW+ yn gwbl unigryw ac wedi’i theilwra i ddiwallu anghenion y dysgwr unigol.
Yn achos Faith, dewisodd ganolbwyntio ar astudio Adeiladu ac enillodd hyfforddiant ymarferol a chymwysterau yng Nghanolfan Sgiliau Hadfield ACT. Wrth i sgiliau Faith ddatblygu, cyflwynodd ACT hi i KEIR Construction, lle mae hi bellach yn cael ei chyflogi fel briciwr. Mae’n rôl y mae hi’n gyffrous iawn amdani ac yn angerddol drosti!
“Mae gosod brics yn gorfforol heriol iawn, ond rwy’n mwynhau gwneud rhywbeth mewn maes lle nad yw pobl yn siŵr y gallwch ei wneud fel menyw. Rwyf wrth fy modd yn profi eu bod yn anghywir ac yn gwneud gwaith da iawn. Rwy’n credu bod dysgu crefft yn un o’r pethau ymarferol pwysicaf y gallwch ei wneud mewn bywyd. Rwy’n gwybod sut i adeiladu tŷ i fyw ynddo, a bydd angen tai arnom bob amser.”
Yn ôl Women In Construction, dim ond 10% o’r gweithlu adeiladu sy’n fenywod, gyda dim ond 2.5% yn weithwyr crefft. Gyda swyddi adeiladu’n cael eu rhagweld i godi dros ddwy filiwn yn 2022, mae dewis gyrfa Faith yn edrych yn addawol iawn. Mae hi’n credu bod y gefnogaeth a gafodd gan ACT wedi bod yn enfawr wrth ei helpu i ddechrau ar ei llwybr gyrfa.
“Rwyf mor ddiolchgar bod ACT wedi fy rhoi mewn cysylltiad â KEIR. Fe wnaethant hyd yn oed fy hebrwng i’m cyfweliad a’m helpu i drefnu fy ngherdyn CSCS. Heb ACT, fyddwn i ddim hyd yn oed wedi meddwl mynd at KEIR, felly mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel.”
Yn dilyn ei chyfnod gydag ACT ar JGW+, mae Faith yn llythrennol yn adeiladu dyfodol newydd iddi hi ei hun ac mae’n gyffrous am y cyfleoedd sydd o’i blaen. Iddi hi, does dim terfyn ar yr hyn y gall ei gyflawni!
Mae bywyd yn llawn cyfleoedd ac yn cynnig cymaint o brofiadau. I mi, mae’n rhaid i bob diwrnod fod yn wahanol ac mae angen i mi ddysgu rhywbeth newydd hefyd. Rwy’n teimlo bod gosod brics yn cynnig hynny i mi. Rwyf wrth fy modd â’r syniad o adeiladu rhywbeth enfawr a bod yn gyfrifol am dirnod sy’n byw ymlaen am byth mewn hanes ymhell ar ôl i chi fynd. Rwyf eisiau cyfrannu at y byd a gadael fy ôl arno.
Gyda doethineb y tu hwnt i’w hoedran, a’i phenderfyniad cadarn, mae’n siŵr y bydd Faith yn gwneud hynny. Mae hi’n rhannu’r cyngor anhygoel hwn ag unrhyw un, waeth beth fo’u hoedran, sy’n ystyried eu hopsiynau gyrfa.
“Mae mor bwysig dilyn yr hyn rydych chi eisiau ei wneud yn hytrach na’r hyn rydych chi’n teimlo dan bwysau i’w wneud. Es i’r coleg yn meddwl mai dyna oedd fy unig ddewis, ac fe wnes i ddarganfod bod cymaint o ffyrdd eraill o fyw. Does dim rhaid i chi ddilyn yr un llwybr â phawb arall. Dyna pam rwy’n caru ACT, oherwydd roeddwn i’n gallu archwilio beth roeddwn i eisiau ei wneud gyda fy mywyd. Rwy’n falch o fod eisiau bod yn wahanol. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymateb yn gadarnhaol iawn i’m dewis gyrfa. Pan fyddaf yn dweud wrth bobl fy mod yn friciwr, maen nhw bob amser yn gwenu mewn syndod ac yn dweud ‘mae hynny’n wirioneddol, wirioneddol cŵl’.”