16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/

Mae llawer o gamdybiaethau cyffredin ynghylch prentisiaethau, o oedran a phrofiad y bobl sy’n ymgymryd â nhw i’r pynciau sydd ar gael, ond yn fyr, gall prentisiaethau fod yn opsiwn gwych i unrhyw un, beth bynnag fo’ch rôl swydd.

Enghraifft berffaith o hyn yw’r dysgwr Defnyddwyr TG NVQ Lefel 3, Kevin Hughes.

Mae Kevin, 46, yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel Swyddog Strydoedd Glanach. Yn ei waith o ddydd i ddydd, mae’n delio â thipio anghyfreithlon, cerbydau wedi’u gadael a throseddau gwastraff masnachol.

Cofrestrodd Kevin ar y cwrs yn wreiddiol gan ei fod yn gweithio gyda llawer o wahanol feddalwedd yn ei rôl, yn enwedig Office 365, ac roedd eisiau gwell dealltwriaeth o sut i gael y gorau ohonynt.

Mae prentisiaeth Defnyddwyr TG yn rhoi’r wybodaeth i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau digidol, gyda ffocws ar systemau cyffredin yn y gweithle fel Microsoft Office a Google Drive.

Mae’r cwrs yn ymdrin â gwella cynhyrchiant, deall potensial TG a datblygu effeithiolrwydd personol ac effeithiolrwydd tîm drwy ddefnyddio TG.

“Roedd yn apelio ataf oherwydd roedd angen gwell dealltwriaeth arnaf o offer Office 365 i wneud fy swydd, ac roedd yn cael ei wneud yn ystod fy oriau gwaith, nid yn ystod fy mywyd cartref,” meddai Kevin.

Yn ystod y brentisiaeth, rwyf wedi datblygu gwell dealltwriaeth o PowerPoint, Excel a Word, a’r hyn y gall pob un ohonynt ei greu. Rwyf hefyd wedi sicrhau fy mhresenoldeb ar-lein yn well ac wedi diogelu fy ngwybodaeth yn well.

“Rydym wedi dechrau cynnal cyflwyniadau mewn ysgolion ar ailgylchu, yn ogystal â phrosiectau i helpu gwahanol ystadau tai i ailgylchu a gwaredu sbwriel yn gywir. Rydym yn defnyddio Excel yn aml i gyflwyno’r wybodaeth, felly rwyf bellach wedi gallu arwain rhai o’r rhain oherwydd y sgiliau newydd rwyf wedi’u dysgu.”

Fe wnaeth y cwrs hefyd helpu Kevin gyda chyfweliad swydd, gan fod un o’r unedau’n ymwneud â PowerPoint. Roedd angen i Kevin greu cyflwyniad ar gyfer y cyfweliad ac roedd yn gallu gwneud hynny gyda’r wybodaeth a enillodd. Sicrhaodd hynny’r rôl sydd ganddo nawr, gan symud o fod yn Swyddog Addysg a Gorfodi Gwastraff i fod yn Swyddog Strydoedd Glanach.

Yn ystod y brentisiaeth, cafodd Kevin ei gefnogi gan yr Asesydd Ymarferydd Dysgu Digidol, Jolene Plant.

Dywedodd Kevin: “Roedd gweithio gyda Jolene yn bleser pur; roedd hi mor amyneddgar gyda mi ac ychwanegodd sesiynau ychwanegol er mwyn i mi allu dal i fyny.

“Roedd unrhyw ailgyflwyniadau oedd eu hangen yn dod ataf cyn gynted ag y cawsant eu nodi, felly roeddwn yn gallu cwblhau unedau ar amser.

“Cefais gefnogaeth gydag ymchwil ac offer dysgu i helpu. Mae hyn wedi bod yn brofiad dysgu gwych i mi a byddwn yn argymell ACT i unrhyw un.”

Ychwanegodd Jolene: “Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda Kevin yn fawr yn ystod ei gymhwyster. Mae wedi bod mor braf gweld ei sgiliau’n datblygu, ac roedd gwybod fy mod wedi helpu i’w gefnogi i gyflawni ei nod terfynol yn wych.

“Roedd gan Kevin a minnau berthynas waith dda. Roeddwn yn onest iawn ag ef pan gymerais drosodd fel ei asesydd ac rwy’n credu ei fod yn gwerthfawrogi hynny. Roedd bob amser yn gwybod ble’r oedd e a beth oedd angen ei wneud. Yn gyfnewid, rhoddodd Kevin lawer o ymdrech i gyflawni’r nod terfynol.

“Roeddwn wir yn mwynhau ein cyfarfodydd; yn ogystal â chanolbwyntio ar y cymhwyster, roedd hefyd yn hyfryd sgwrsio â Kevin am weithgareddau o ddydd i ddydd a chael sgyrsiau cyffredinol. Byddaf yn gweld eisiau ein cyfarfodydd rheolaidd, ond dymunaf bob lwc i Kevin ar gyfer y dyfodol ac, gobeithio, efallai y caf gyfle i weithio gydag ef eto.”

Rhannwch