16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Ynglŷn â’r Cyfle hwn

Mae Concord International yn Gwmni Masnachu sy’n delio’n bennaf yn y sectorau Gofal Personol a Gofal Cartref.

Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hunangymhellol, yn gyflwyniadwy, yn hyddysg mewn cyfrifiaduron, â sgiliau trefnu da a gallu gweithio i derfynau amser. Rhaid iddynt fod yn hyderus a chael dull da o siarad dros y ffôn, a chael profiad o ddefnyddio Excel a Microsoft Word.

New Inn, Pontypool

9.00 am – 4.30 pm, Dydd Llun – Dydd Gwener.

Lwfans hyfforddi TSC+ hyd at £60 yr wythnos ynghyd â threuliau teithio.

Dyletswyddau

  • Codio anfonebau’n gywir a’u nodi ar Becyn Cyfrifon Sage.
  • Paru anfonebau a nodiadau dosbarthu – delio ag unrhyw ymholiadau.
  • Cysoni datganiadau cyflenwyr.
  • Dyrannu taliadau/derbynebau cwsmeriaid.
  • Diweddaru taenlenni/cronfeydd data excel.
  • Defnyddio system rheoli stoc bwrpasol a system epos.
  • Prosesu archebion cwsmeriaid.
  • Gwasanaeth cwsmeriaid yn delio ag ymholiadau cwsmeriaid.
  • Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys gweinyddiaeth gyffredinol, gweithredu switsfwrdd ffôn, teipio llythyrau, ffeilio ac ati.

Byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn ac e-bost drwy gydol y broses recriwtio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi manylion cyswllt cyfredol i ni ac yn gwirio’ch negeseuon yn rheolaidd.