16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Hyd 2024 / Dysgwyr Newyddion

Yr wythnos hon, mae Urdd Gobaith Cymru yn dathlu 10 mlynedd ers sefydlu Adran Brentisiaethau’r mudiad, a degawd o ymbweru 1,000 o bobl ifanc a dysgwyr ledled Cymru.

Adran Brentisiaethau’r Urdd yw un o brif ddarparwyr prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru, gan arbenigo mewn prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau chwaraeon, hamdden, addysg awyr agored, gofal plant, addysg a gwaith ieuenctid.

Ers 2014 mae’r adran wedi ymrwymo i bontio’r bwlch rhwng addysg a chyflogaeth drwy helpu dros 1,000 o unigolion i ennill profiad gwaith a chymwysterau.

Mae llwyddiannau Adran Brentisiaethau’r Urdd dros y ddegawd ddiwethaf yn cynnwys:

  • Hyfforddi dros 600 o brentisiaid: Mae’r adran wedi llwyddo i ddarparu hyfforddiant i dros 600 o brentisiaid mewn amrywiaeth o sectorau, o chwaraeon ac addysg awyr agored i ofal plant a gwaith ieuenctid.
  • Cynnydd o 400% mewn Prentisiaethau newydd y flwyddyn ers 2018 (o 35 i 180).
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda dros 80 o gyflogwyr yn flynyddol.

· Sicrhau fod 400 yn ennill cymwysterau Sgiliau Hanfodol: Mae’r adran wedi sefydlu HWB Sgiliau Hanfodol ei hun er mwyn sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn cael yr opsiwn o ddatblygu a diweddaru eu sgiliau Cyfathrebu, Rhifedd a Llythrennedd Digidol trwy gymorth a mentora wedi’i deilwra. Mae’r HWB yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr hyfforddiant a cholegau ledled Cymru, i sicrhau mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i bawb.

“Rydym yn hynod falch o beth mae’r Adran Brentisiaethau wedi’i gyflawni dros y deng mlynedd diwethaf,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd. “Mae ymrwymiad yr adran i ysbrydoli teithiau gyrfa unigolion, cefnogi cyflogwyr i ddatblygu staff cymwysedig ynghyd â diwallu’r angen am weithlu cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod wrth wraidd eu gwaith.

“Mae’r wythnos hon yn gyfle i ddathlu a chydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein tîm, ein partneriaid, ac yn bwysicaf oll, y prentisiaid a’r dysgwyr eu hunain. Edrychwn ymlaen at y deng mlynedd nesaf o ddarpariaeth a pharhau i feithrin gweithlu’r dyfodol.”

Meddai Matt Burnett, Pennaeth Gweithrediadau ACT Training:

Mae wedi bod yn wych cael cydweithio gyda’r Urdd ar y cynllun prentisiaeth a bod yn dyst iddo’n datblygu dros y blynyddoedd, gan ehangu ar draws ystod eang o sectorau ledled ein rhwydwaith.

“Mae cynnig prentisiaethau cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr wastad wedi bod yn flaenoriaeth i ni yn ACT wrth i ni ymdrechu i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gymunedau ledled Cymru. Rydym yn ddiolchgar i’r Urdd am y bartneriaeth barhaus.”

Mae’r Urdd yn cynnal digwyddiad rhwydweithio yn Llandudno (mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd) ac Abertawe’r wythnos hon er mwyn rhannu straeon llwyddiant y ddegawd ddiwethaf yn

ogystal â strategaeth yr Adran Brentisiaethau i’r dyfodol yng nghwmni prentisiaid, cyflogwyr amrywiol a rhanddeiliaid.

Rhannwch