Ychwanegodd Anne Reardon-James, 46 oed, sy’n byw yn y Barri, wobr Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn at ei chasgliad yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.
Mae hi’n gynghorydd dysgu gyda Panda Education and Training ac yn cyflwyno Prentisiaethau mewn Dysgu a Datblygu, mewn partneriaeth ag ALS Training. Mae gan Anne awydd mawr i ddysgu, ac mae’n rhannu ei gwybodaeth i ysbrydoli ei dysgwyr a’i chydweithwyr yn y rhwydwaith dysgu ôl-16 yng Nghymru.
“Mae’r wobr hon yn hollol wych ac ychydig yn llethol,” meddai Anne, a enillodd wobr Tiwtor y Flwyddyn Inspire! 2023 y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar gyfer Sgiliau Gwaith y llynedd. “Mae’n gydnabyddiaeth o’r gwaith rydym yn ei wneud gyda’n dysgwyr wrth ddarparu prentisiaethau o safon. Rwy’n credu y bydd fy nysgwyr yn gyffrous drosof.
“Dechreuais ym maes dysgu seiliedig ar waith yn ddiweddarach mewn bywyd, ac mae’n wych gallu helpu i fentora a chefnogi pobl i oresgyn eu rhwystrau. Rwy’n caru fy swydd yn fawr ac rwyf bob amser yn rhoi cynnig ar wahanol ffyrdd o gyflwyno.”
Fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac ymarferwyr, trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).
Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau arbenigol a sefydliad dyfarnu ar gyfer diwydiant. Mae’r gwobrau’n amlygu cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Ar hyn o bryd, mae Anne yn gweithio tuag at Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg. Mae ganddi radd MA mewn Addysg, TAR, gradd yn y Gwyddorau Ymddygiadol, ac mae’n Gymrawd SET, yn Gymrawd Cysylltiol CIPD ac Advance HE.
Mae wedi gweithio ym maes addysg ôl-16 ers 17 mlynedd, ar ôl addysgu llythrennedd a rhifedd i oedolion yn y gymuned, cyflwyno sgiliau hanfodol i ddysgwyr cyflogedig a datblygu rhaglenni dysgu ar gyfer y gwasanaethau prawf a charchardai.
Gan fod ganddi angerdd dros ddysgu gydol oes, mae Anne yn ysbrydoli dysgwyr drwy arddangos technegau a dulliau addysgu a dysgu y gallant eu defnyddio yn eu hymarfer eu hunain.
Mae’n cynnal gweithdai hyfforddi ar-lein gan ddefnyddio technoleg ddigidol i wella dysgu, yn cynnal cyfarfodydd mentora misol ac yn darparu cymorth personol wedi’i deilwra i ddysgwyr ledled Cymru.
Mae hi hefyd yn olygydd ar y cyfnodolyn Research and Practices in Adult Literacies, yn cyhoeddi blogiau, yn siarad mewn cynadleddau ac yn rhannu syniadau, adnoddau ac arfer da gyda grwpiau rhwydweithio ar-lein.
Mae gwaith gwirfoddol Anne yn cynnwys addysgu Saesneg i ffoaduriaid o Wcráin a’u cefnogi yn ei chartref ei hun, yn ogystal â siopa ar ran cleientiaid sy’n gaeth i’w cartrefi ac ymweld â nhw.
Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Hoffwn longyfarch nid yn unig Anne a’r enillwyr eraill, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.
“Mae arddangos eu cyflawniadau yn bwysig gan ei fod yn ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog mwy o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.”
Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Rwyf am longyfarch yr holl ymgeiswyr terfynol a’r enillwyr. Mae straeon fel eu rhai nhw yn pwysleisio’r effaith sylweddol y gall prentisiaethau ei chael, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaus a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Byddant yn rhan hollbwysig o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.”
Am ragor o wybodaeth, gweler recriwtio prentis neu ffoniwch 03000 603000.