Mae Heledd, 24 oed, o Gaerfyrddin, wedi gweithio i FUW Insurance Services Ltd, brocer yswiriant arbenigol amaethyddol mwyaf blaenllaw’r DU, ers tair blynedd ac mae wedi’i lleoli yn swyddfa Rhuthun yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd.
Ar ôl ymuno â’r cwmni yn ystod y pandemig, helpodd i ddarparu gwasanaeth ar draws sawl swyddfa a chafodd ei dyrchafu’n brif weinyddwr cyfrifon oherwydd ei brwdfrydedd dros ddysgu ac ysgogi eraill.
Wrth ymateb i’w gwobr, dywedodd Heledd: “Rwyf wedi fy syfrdanu’n llwyr ac yn ddiolchgar iawn am y wobr hon, sy’n cydnabod yr holl nosweithiau hwyr a phenwythnosau rwyf wedi’u rhoi i’r Brentisiaeth Uwch, yr wyf bellach yn agos at ei chwblhau.
“Mae’r holl waith yn bendant wedi bod yn werth chweil oherwydd rwyf wedi derbyn cymorth anhygoel, a gall prentisiaeth fynd â chi gymaint ymhellach yn eich gyrfa.
“Rwy’n gefnogwr mawr o effeithlonrwydd a chyflwyno ffyrdd newydd o wneud pethau sydd nid yn unig yn helpu’r busnes ond y staff hefyd. Rwy’n mwynhau ochr reoli’r swydd yn arbennig a hoffwn sicrhau rôl barhaol fel swyddog gweithredol cyfrifon yn y dyfodol.”
Dywedodd Heledd ei bod yn noson arbennig iawn, gan fod ei mentor hyfforddi, Gareth Lewis o ALS Training, hefyd yn ymgeisydd terfynol yng nghategori Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith.
Fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac ymarferwyr, trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).
Prif noddwr eleni oedd EAL, partner sgiliau arbenigol a sefydliad dyfarnu ar gyfer diwydiant. Mae’r gwobrau’n amlygu cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Disgrifiodd Caryl Roberts, rheolwr datblygu busnes FUW Insurance Services Ltd, Heledd fel rhywun “eithriadol”, gan ychwanegu: “Mae hi wedi dod â pharodrwydd i herio a moderneiddio rhai prosesau hirsefydlog, ac mae ganddi awydd i gyflwyno dulliau newydd o ddatrys problemau.”
Cwblhaodd Heledd Brentisiaeth Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Yswiriant) o fewn blwyddyn ac mae bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Yswiriant Cyffredinol, gyda’r ddau gymhwyster yn cael eu cyflwyno gan ALS Training.
Mae wedi cynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb y busnes drwy arwain prosiect i gyflwyno proses e-fasnachu electronig, darparu arbenigedd gwerthfawr ar brosesau archwilio mewnol, cynorthwyo gyda marchnata a chodi arian, ac mae’n ffynnu fel mentor i staff newydd.
Dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Hoffwn longyfarch nid yn unig Heledd a’r enillwyr eraill, ond yr holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gafodd eu henwebu.
“Mae arddangos eu cyflawniadau yn bwysig gan ei fod yn ysbrydoli mwy o bobl i ystyried prentisiaethau ac yn annog mwy o gyflogwyr i gyflogi prentisiaid.”
Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Simon Pirotte OBE: “Rwyf am longyfarch yr holl ymgeiswyr terfynol a’r enillwyr. Mae straeon fel eu rhai nhw yn pwysleisio’r effaith sylweddol y gall prentisiaethau ei chael, gan helpu pobl i ddod o hyd i gyflogaeth foddhaus a chyfrannu at system sgiliau Cymru. Byddant yn rhan hollbwysig o’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.”
Am ragor o wybodaeth am recriwtio prentis, ewch i: https://gov.wales/apprenticeships-genius-decision neu ffoniwch 03000 603000.