Mam plentyn byddar yn rhannu pwysigrwydd dysgu BSL
Mae dysgu Iaith Arwyddion Prydain yn brofiad gwerth chweil waeth beth fo’r cyd-destun, ond i rieni plant byddar gall olygu datgloi dull cyfathrebu hanfodol.
I’r ddysgwr Nicola Seaward, ysgogodd y ffaith bod ei merch ieuengaf yn hollol fyddar hi i ddysgu’r sgil.
Yn 2022, dim ond tair wythnos oed oedd merch ieuengaf Nicola pan gafodd ddiagnosis o fyddardod. Gyda dau o blant hŷn oedd yn gallu clywed, roedd hwn yn brofiad cwbl newydd i’w theulu. Yn 14 mis oed, cafodd ei merch fewnblaniadau cochleaidd, a wnaeth wella ei gallu i glywed yn sylweddol. Fodd bynnag, sylweddolodd Nicola a’i gŵr yn gyflym pa mor bwysig oedd dysgu iaith arwyddion er mwyn sicrhau nad oedd cyfathrebu’n dibynnu’n llwyr ar gymhorthion clyw.
Gan gydnabod gwerth BSL, cwblhaodd gŵr Nicola gwrs BSL Lefel 1 yn fuan ar ôl diagnosis eu merch. Wedi’i hysbrydoli gan ei ymroddiad, dilynodd Nicola ei esiampl, gan ymgymryd â chwrs BSL gyda’r darparwr hyfforddiant ALS yn dilyn argymhelliad gan Athro Plant Byddar ei merch. Er ei bod wedi’i llethu gan yr her i ddechrau, cafodd Nicola y broses ddysgu’n bleserus, diolch i ddull cefnogol ac anogol ei thiwtor, Nadene.
Un o agweddau mwyaf effeithiol y cwrs oedd y pwyslais ar ymarfer sgyrsiau syml bob wythnos. Helpodd y dull hwn Nicola a’i chyd-ddysgwyr i feithrin hyder a dod yn fwy cyfarwydd â’r sgil newydd. Dros amser, daeth Nicola yn fwy cyfforddus wrth ddefnyddio iaith arwyddion a gwerthfawrogodd ei defnyddioldeb mewn rhyngweithiadau bob dydd. Fodd bynnag, cafodd rai agweddau, fel sillafu â’r bysedd, yn arbennig o heriol. Er hynny, dyfalbarhaodd a datblygodd y gallu i gyfathrebu â’i merch gan ddefnyddio arwyddion syml.
Er bod mewnblaniadau cochleaidd ei merch yn ei galluogi i glywed a datblygu lleferydd, mae Nicola yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd cael ffordd arall o gyfathrebu. Mewn amgylcheddau swnllyd neu ar adegau pan nad yw ei merch yn gwisgo ei mewnblaniadau, mae BSL yn ddull wrth gefn hanfodol. Yn ogystal â hyn, mae Nicola a’i gŵr yn defnyddio BSL yn rheolaidd mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, gan atgyfnerthu ei bresenoldeb yn eu bywydau bob dydd. Mae eu merch hefyd wedi dysgu rhai arwyddion syml ac yn eu defnyddio’n hyderus.
“Byddwn yn annog rhieni plant byddar i ddysgu BSL,” meddai Nicola. “Fel teulu, mae wedi ein helpu’n fawr, ac mae’n gysur gwybod bod gennym ffordd arall o gyfathrebu â’n merch.
“Gydag unrhyw ddiagnosis o golli clyw, gall fod yn anodd gwybod pa lwybr i’w ddilyn. Er bod ein merch yn gallu cyfathrebu drwy leferydd, mae ei chlyw yn dibynnu’n llwyr ar ei mewnblaniadau cochleaidd. Gall y rhain gael eu colli neu eu difrodi unrhyw bryd, ac mae adegau hefyd pan nad yw fy merch yn eu gwisgo, ac felly ni fyddai’n gallu clywed unrhyw beth o gwbl.
“Rydym yn teimlo ei bod yn helpu cael rhywfaint o BSL fel dull wrth gefn, a gallai fod yn rhywbeth y bydd ein merch yn dymuno ei ddefnyddio a pharhau i’w ddysgu wrth iddi fynd yn hŷn.”
Dywedodd Emma Howard, Rheolwr Ansawdd yn ALS: “Mae dysgu Iaith Arwyddion Prydain yn fwy na dim ond meithrin sgil; mae’n datgloi byd o gysylltiadau. Yn ALS, rydym yn credu mewn grymuso teuluoedd fel un Nicola gyda’r offer sydd eu hangen arnynt i gyfathrebu y tu hwnt i rwystrau.
“Mae ein cyrsiau’n darparu amgylchedd cefnogol lle mae dysgwyr yn meithrin hyder ac yn ennill gwybodaeth ymarferol. Boed hynny ar gyfer twf personol, datblygiad proffesiynol neu feithrin cynhwysiant, gall ALS helpu i’ch arwain ar eich taith tuag at gyfathrebu ystyrlon.”
Gallwch glicio yma i gael rhagor o fanylion am y cwrs BSL.