Ni ddylai cyflogwyr fod yn hunanfodlon ynghylch y bwlch rhwng y rhywiau yng Nghymru
Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni ddydd Sadwrn, 8 Mawrth, gyda thema 2025 yn canolbwyntio ar ‘hawliau, cydraddoldeb a grymuso i bob menyw a merch’.
Ond yng Nghymru, lle mae’r system addysg a gweithleoedd yn esblygu’n barhaus, a yw’r negeseuon hyn yn dal i fod yr un mor berthnasol? Ar yr olwg gyntaf, gallai ymddangos bod menywod eisoes ar sail gyfartal. Fodd bynnag, o edrych yn fanylach, mae’r data’n adrodd stori wahanol.
Er bod menywod ifanc yng Nghymru yn perfformio’n well na dynion ym maes addysg, maent yn dal i wynebu rhwystrau anoddach yn y gweithle. Mae astudiaeth Llywodraeth Cymru, Llesiant Cymru 2024, yn amlygu, er bod mwy o fenywod 16-24 oed mewn addysg amser llawn na dynion, fod eu cyfradd gyflogaeth gyffredinol yn is (70.2% i fenywod o gymharu â 76.8% i ddynion). Yn y cyfamser, mae anweithgarwch economaidd – sy’n aml yn gysylltiedig â chyfrifoldebau gofalu – yn effeithio ar bron un o bob pedair menyw (24.5%), o gymharu â dim ond 16.2% o ddynion.
Yna mae cyflog – er bod 68.3% o ddynion yng Nghymru yn ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol, dim ond 58.5% o fenywod sy’n gwneud hynny. Mae hynny’n golygu bod cannoedd o filoedd o fenywod, er gwaethaf eu cymwysterau, yn ennill llai na’r hyn a ystyrir yn gyflog teg ar gyfer safon byw weddus.
Yn olaf, mae cymwysterau – ac yma mae menywod ar y blaen ar bapur ond yn dal ar eu colled yn ymarferol. Yn 2023, roedd dynion yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau (8.7%) o gymharu â menywod (7.1%), ac roedd menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau ar Lefel 4 FfCC neu uwch. Eto i gyd, nid yw’r cyflawniadau hyn yn trosi’n gyfleoedd gwaith na chyflog cyfartal. Mae hyn yn bennaf oherwydd dyletswyddau gofalu, sy’n golygu bod menywod yn fwy tebygol na dynion o ymgymryd â rolau rhan-amser er mwyn gweithio o amgylch yr ymrwymiadau hyn.
Gall cyflogwyr fynd yn hunanfodlon yn hawdd ynghylch yr ystadegau hyn; mae angen llenwi rolau, ond os nad ydynt yn hygyrch i bawb, mae cwmnïau’n colli mynediad at gronfa sylweddol o dalent.
Un rhwystr sylweddol, ond sy’n aml yn cael ei anwybyddu, y gall cyflogwyr fynd i’r afael ag ef yn rhwydd yw hyblygrwydd o ran oriau a dyddiau gwaith. Mae llawer o fenywod, yn enwedig mamau, yn gweld yr amserlen waith naw tan bump yn rhwystr mawr i waith amser llawn. Drwy ganiatáu amseroedd dechrau a gorffen hyblyg, oriau cywasgedig neu weithio o bell, gall busnesau helpu i chwalu’r rhwystr hwn. Ac mewn gwirionedd, mae o fudd i bawb – mae cynnig yr hyblygrwydd hwn nid yn unig yn sicrhau nad yw gweithwyr medrus yn cael eu rhoi o’r neilltu oherwydd cyfrifoldebau gofalu, ond hefyd yn aml yn arwain at gyfraddau cadw staff uwch a staff hapusach.
Mae gan ddysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau rôl hollbwysig hefyd wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau. Mae’r gallu i uwchsgilio tra mewn swydd yn darparu llwybr ymarferol i fenywod symud ymlaen yn eu gyrfaoedd heb orfod gadael cyflogaeth na chymryd cyfrifoldebau ychwanegol fel dosbarthiadau nos.
Mae cynnig dysgu seiliedig ar waith yn golygu y gall mwy o fenywod gael mynediad at y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu eu gwybodaeth yn eu rôl a symud ymlaen o fewn y busnes.
Nid cefnogi cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn unig y mae cyflogwyr sy’n addasu er mwyn cefnogi menywod yn well – maent hefyd yn diogelu dyfodol eu busnesau. Mae gweithle mwy cynhwysol yn meithrin cyfraddau cadw staff uwch ac yn helpu i leihau’r bwlch sgiliau. Gyda chronfa amrywiol o dalent, mae gan sefydliadau safbwynt ehangach ar y dirwedd y maent yn ei llywio, a fydd yn y pen draw o fudd i’w perfformiad.
Ni fydd y bwlch rhwng y rhywiau yng Nghymru yn cau ar ei ben ei hun, ond gall busnesau fod ar flaen y gad o ran newid, yn enwedig wrth sicrhau mai talent sy’n pennu’r cyfleoedd a gynigir i’w gweithwyr – nid rhyw.