Mae ansicrwydd economaidd wedi dod yn gefndir cyfarwydd i fusnesau Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Y costau byw cynyddol, ansefydlogrwydd geowleidyddiaeth parhaus, pwysau’r farchnad lafur a gwariant gofalus defnyddwyr; maent i gyd wedi chwarae rhan yn lleihau hyder ymhlith perchnogion busnes.
Er gwaethaf hyn, mae Adroddiad Chwarterol diweddaraf Dirnad Economi Cymru yn dangos bod busnesau Cymru yn parhau i fuddsoddi, ehangu a chynllunio ar gyfer eu dyfodol.
Adroddodd dros chwarter o fusnesau bach a chanolig y DU fod twf dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda bron i bedwar o bob deg busnes yng Nghymru yn disgwyl i’w perfformiad wella yn y 12 mis nesaf. Yn ogystal â hyn, parhaodd ‘genedigaethau’ busnes yng Nghymru i fod yn uwch na ‘marwolaethau’ busnes.
O ystyried tirwedd ansefydlog y blynyddoedd diwethaf, nid yw’n syndod llawer o fusnesau wedi yn ffocysu ar adeiladu gwytnwch. Gyda phob rhwystr newydd sy’n cael ei daflu atynt, mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn parhau i wynebu’r her ac addasu nid yn unig i fynd drwodd ond i dyfu yn y broses.
Ac mae gwytnwch yn aml yn gysylltiedig â buddsoddiad; nid a ddylai busnes fuddsoddi ond ble y dylai fuddsoddi.
Gall gwariant cyfalaf a chynlluniau ehangu fod angen ymrwymiad ariannol sylweddol ar adeg pan mae llawer o fusnesau yn ddealladwy yn amddiffynnol o’u llif arian. Ond mae datblygu talent, yn enwedig yng Nghymru, yn strategaeth rad ond proffidiol.
Pobl yw’r canolbwynt pwysicaf ar gyfer cynhyrchiant, arloesedd a thyfiant gweithredoedd hirdymor, felly mae’n gwneud synnwyr bod busnesau gyda gweithluoedd medrus, cymwysadwy yn fwy parod i ymateb i’r newidiadau annisgwyl rydyn ni i gyd wedi gorfod wynebu yn y blynyddoedd diweddar.
Ar adeg pan mae’n rhaid i bob gwariant ddangos gwerth, mae prentisiaethau, neu ddysgu seiliedig ar waith, yn cynnig un o’r datrysiadau datblygu mwyaf effeithiol i fusnesau.
Gyda rhaglenni prentisiaeth wedi’u hariannu’n llawn trwy gymorth Llywodraeth Cymru, gall sefydliadau ddatblygu gweithwyr presennol heb y costau hyfforddi sylweddol sy’n aml yn gysylltiedig â datblygu gweithle.
Er gwaethaf y gred boblogaidd, nid yw prentisiaethau wedi’u cyfyngu i grefftau traddodiadol na lefelau proffesiynol. Mae’r rhaglenni’n ymestyn ar draws pob sector, gan gynnig cymwysterau mewn popeth o arweinyddiaeth a rheolaeth, gwasanaeth digidol a chwsmeriaid i weinyddu busnes, iechyd a gofal cymdeithasol a sgiliau gwyrdd.
Nid yn unig yw dysgu seiliedig ar waith yn dda i wydnwch busnes, mae’n helpu i roi hwb i gadw staff a chynhyrchiant hefyd, gyda dysgu a datblygiad yn un o brif ffactorau cyson boddhad staff. Mae datblygu gweithwyr trwy raglenni strwythuredig yn helpu busnesau i adeiladu cronfa o dalent eu hunain, gan wella cynhyrchiant a chreu llwybrau dilyniant hollbwysig sy’n cefnogi cadw. Mae hefyd yn dangos ymrwymiad i weithwyr ar adeg pan mae denu a chadw staff medrus yn parhau i fod yn her fawr.
Wedi dweud hynny, nid yw cyllid ar ei ben ei hun yn gwarantu llwyddiant. Er bod buddsoddiad ariannol yn fach, mae rhoi digon o fuddsoddiad mewn amser a chefnogaeth yn allweddol i helpu’ch gweithlu i lwyddo. Mae hefyd yn bwysig dod o hyd i’r darparwr hyfforddiant cywir a all eich helpu i lywio’r broses a sicrhau bod cyrsiau’n cyd-fynd â’ch amcanion busnes a’r canlyniadau a ddymunir.
Fel darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru, mae ACT wedi bod yn helpu cyflogwyr i gryfhau sgiliau eu timau ers bron i ddegawdau. Llynedd gweithiodd ACT gyda 1350 o gyflogwyr i ddatblygu eu gweithlu.
Os hoffech ddarganfod mwy am sut gall ACT eich helpu i wneud y mwyaf o’ch datblygiad talent, ewch yma.
I sefydliadau sy’n edrych i wneud buddsoddiadau effeithiol ond isel eleni, edrych ar sut gallwch chi wneud y mwyaf o’r dalent sydd gennych eisoes yw’r penderfyniad craffaf.
Mae’r blynedd diwethaf wedi dangos faint o gylchoedd economaidd all amrywio a sut mae hyder yn llifo. Fodd bynnag, mae busnesau sy’n buddsoddi yn eu pobl yn parhau i fod mewn sefyllfa well nid yn unig i lywio’r rhwystrau hyn ond i ffynnu yn erbyn y cefndir ansicr hwn.