/ Dysgwyr

Pan gamodd Nicola O’Callaghan i rôl uwch-arolygydd radiograffydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, daeth â blynyddoedd o brofiad gyda hi. Ond roedd symud i reolaeth yn golygu ymgymryd â chyfrifoldebau newydd, anghyfarwydd.

“Roeddwn i’n gyfforddus yn yr hyn roeddwn i’n ei wneud, yn defnyddio’r holl sgiliau roedd y brifysgol wedi fy mharatoi ar eu cyfer,” esboniodd Nicola. “Ac yna, yn sydyn, cefais fy hun yn y swydd reoli hon, yn gorfod delio â llu o bethau nad oeddwn i’n barod amdanynt.”

Er gwaethaf y sefyllfa anghyfarwydd, gwelodd Nicola ei fod yn gyfle i ddatblygu gyda chymorth dysgu seiliedig ar waith. Dyna pryd y dechreuodd gymwysterau rheoli gydag ACT.

I Nicola, un o fanteision mwyaf y cymwysterau oedd magu’r hyder i roi ei gwybodaeth bresennol mewn cyd-destun rheoli.

“Roeddwn i’n gallu creu pecyn cymorth a chael fy nghyflwyno i’r holl derminoleg yr oedd bellach disgwyl i mi ei wybod fel rheolwr – pethau fel ‘KPIs’, oedd yn hollol newydd i fi. Dysgais hefyd am amcanion SMART, a sut y gellid eu defnyddio yn fy rôl.”

Roedd y dysgu’n gymorth i Nicola fedru cyfathrebu’n fwy hyderus â chydweithwyr a mynd i’r afael â heriau gyda dealltwriaeth gliriach o sut i fynd ati. Yn hanfodol, rhoddodd y brentisiaeth gyfleoedd iddi gymhwyso’r hyn yr oedd wedi’i ddysgu yn uniongyrchol i’w chyfrifoldebau beunyddiol.

“Rwy’n cofio un achos lle roeddwn i’n gorfod delio â chymhwysedd aelod o staff,” meddai. “Roedd yn wych gallu eistedd i lawr gyda fe a gosod amcanion SMART gyda’r hyder i ddweud ‘dyma beth rydyn ni’n mynd i wneud’.

“Roedd e’n gallu cerdded i ffwrdd yn teimlo fel petai wedi cael rhywbeth allan o hynny, yn hytrach na fi yn dweud ‘mae angen i ti wella’ heb unrhyw syniad o sut i wneud hynny.”

Doedd cydbwyso ei hastudiaethau â gofynion gweithio yn y sector gofal iechyd ddim wastad yn hawdd. Roedd Nicola yn ymwybodol y byddai cwblhau’r cymwysterau yn gofyn am ymrwymiad ychwanegol, gan gynnwys astudio annibynnol ac asesiadau y tu allan i oriau gwaith. Fodd bynnag, derbyniodd gymorth gan ACT trwy gydol ei thaith dysgwr.

“Roedd lefel y gefnogaeth a gefais gan fy ngoruchwyliwr yn anhygoel. Roedd hi’n wych,” meddai Nicola.

Dysgodd y profiad hefyd i Nicola wneud y gorau o’i sesiynau dysgu a datblygodd agwedd mwy effeithlon at ei hastudiaethau wrth iddi symud trwy’r cymwysterau, yn aml yn dod i sesiynau un-i-un gyda digon o gwestiynau a nodiadau.

Er bod Nicola yn gyfforddus yn ei sefyllfa bresennol ac yn mwynhau’r heriau, mae ei phrentisiaethau wedi ehangu ei phersbectif ar yr hyn y gallai hi ei gyflawni.

“Fe ganiataodd i fi fynd i’r afael a phethau ar unwaith,” esboniodd. “Mae rhywun yn ein hadran ar hyn o bryd sydd newydd ddechrau [prentisiaeth] a’r peth cyntaf wnaeth e oedd dod i fy holi am fy mhrofiadau. Mae yn yr un cwch â fi, mae e newydd ymgymryd â rôl reoli ac mae’n teimlo ychydig ar goll. Rwy wedi dweud wrtho y bydd y brentisiaeth yn gwella ei hyder.”

Wrth edrych ymlaen yn ei llwybr gyrfa ei hun, mae Nicola yn hapus lle mae hi ond mae’n parhau i fod yn awyddus i ehangu ei gwybodaeth a’i sgiliau.

“Rwy’n mynd ar ôl mwy o gyfleoedd gwella gwasanaethau,” meddai. “Mae’r brentisiaeth wedi rhoi syniad ehangach i fi o gwmpas fy rôl ac wedi caniatáu i fi fynd ar ôl pethau na fyddwn i wedi eu hystyried o’r blaen.

Rhannwch