16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Angen cymwysterau neu gefnogaeth ychwanegol i gymryd eich cam nesaf?

Os oes gennych chi syniad bras o’r hyn rydych chi am ei wneud, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa benodol, yna mae ein llinyn Dyrchafu ar eich cyfer chi.

Bydd ein Hyfforddwyr Dysgu yn helpu i ddatblygu cynllun dysgu unigol yn benodol ar eich cyfer chi a’ch anghenion.

Bydd eich cynllun dysgu yn cynnwys y canlynol:

  • Un o’n cymwysterau Lefel 1
  • Blasu a lleoliadau gwaith sy’n canolbwyntio ar y diwydiant
  • Teithiau a phrofiadau
  • Prosiectau cymunedol
  • Gwaith gwirfoddol
  • Gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar lesiant
  • Siaradwyr gwadd
  • Cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol

Ar y llinyn hwn, byddwch yn:

  • Ennill lwfans hyfforddi o hyd at £60 yr wythnos
  • Derbyn lwfans pryd o hyd at £19.50 yr wythnos
  • Derbyn cymorth gyda chostau teithio

Rhaid i chi fynychu am o leiaf 16 awr yr wythnos. Fodd bynnag, dim ond os byddwch yn mynychu am 30 awr neu fwy mewn unrhyw gyfnod o 7 diwrnod y telir y lwfans hyfforddi llawn o £60. Bydd swm y lwfans hyfforddi a gewch yn dibynnu ar nifer yr oriau rydych yn cymryd rhan.

Tra byddwch ar raglen Twf Swyddi Cymru+ byddwch hefyd yn cronni gwyliau blynyddol bob mis heb iddo effeithio ar eich lwfans hyfforddi.

Sut mae dod yn ddysgwr llinyn Datblygiad TSC+?

Os ydych chi’n barod i wneud cais neu eisiau dysgu mwy am ein rhaglen TSC+, cysylltwch â’n tîm heddiw.